Llythyrau'r Rhyfel Mawr

Arthur Edwards, Tyddyn'ronnen Image copyright Arall
Image caption Arthur Edwards, Tyddyn'ronnen

I nodi can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Mawr fe ofynnodd BBC Radio Cymru i bobl ifanc sydd rhwng 18 a 25 i gofnodi sut y gwnaethon nhw dreulio eu diwrnod ar Awst 4 eleni.

Bydd Awst y 4ydd 2014 yn cael ei darlledu nos Lun, Hydref 13 am 18:15

Ganrif ynghynt ar Awst y 4ydd 1914 mi fyddai dyfodol miloedd o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru wedi bod yn fwy ansicr o lawer.

Rhwng 1914-1918 cafodd cannoedd o ddynion ifanc o Gymru eu lladd yn ffosydd Ffrainc a Fflandyrs. Yn eu plith roedd Arthur Edwards o Tyddyn'ronnen, Llanuwchllyn. Mae Cymru Fyw wedi cael caniatad ei deulu i gyhoeddi ei lythyrau ola o'r ffosydd:

13 Chwefror 1917

Annwyl Deulu

Gair bach i chwi gael gwybod sut mae pethau'n gyrru 'mlaen. Rydym yn bresennol allan o'r trenches am ychydig ddiwrnodiau. Derbyniais y 'Weekly Post', y 3ydd o'r mis hwn, neithiwr ac fe rwyf yn reit falch o rhyw bapur wythnosol achos cewch y newyddion yn fwy cyffredinol ynddo nac y cewch mewn papurau dyddiol.

Ymddengys i mi fod Germany am dynnu pawb yn ei phen. Nis gwn a yw yn meddwl paffio y byd ond credaf fod ganddi fwy nas gall ei fanagio allan yn Ffrainc yn barod, ond hwyrach mai ceisio cael rhyw esgus am heddwch y mae hi.

Nid wyf yn meddwl y llwgith neb allan yn y trenches yma achos mae yma ddigon o gig fresh wrth law bob amser yma. Mae'r llygod yn berwi yma. Pan yn cael ychydig o orffwys weithiau cyn gynted ac y tawelwch chwi fe deimlwch y llygod yn dechrau cerdded drosoch.

Mae yn rhyw deimlad reit ryfedd eu teimlo yn cerdded drosoch ac yn sniffian uwch eich pen a thendiwch hynny o 'rations' sydd gennych neu barsel; ni byddant yn hir yn ei roi o'r golwg yn rhywle.

Deallwn eich bod wedi cael dyrniad ardderchog; mae'n gofyn edrych ar ei ôl yn enwedig ar y rate mae'rsubmarine wedi bod yn gweithio yn ddiweddar. A yw hi wedi meirioli yna eto? Mae wedi cynhesu yma dipyn heddiw ac yn edrych braidd yn debyg i wlaw. Nis gwn a yw hi yn mynd i feirioli ai peidio. Ond mae yma drwch ofnadwy o rew yma.

Pan yn palu fe rydym yn ffeindio fod y ddaear wedi rhewi i drwch o lathen o leiaf. Felly, gwelwch ei bod wedi rhewi yn o galed yma. Meiriol ofnadwy fydd o pan y daw. Rwyf yn ofni y bydd y trenches wedi eu llifo allan. Wel, nid wyf yn teimlo mewn hwyl ysgrifennu o gwbl heno felly terfynaf.

Gyda chofion cynhesaf atoch,

Eich mab, Arthur.

Image copyright Arall
Image caption Rhan o lythyr Arthur Edwards at ei deulu ar Chwefror 14 1917

14 Chwefror 1917

Annwyl Rieni

Gair bach neu ddau i gydnabod derbyniad y parsel rhagorol dderbyniais neithiwr. Roedd y cynnwys yn eithriadol dderbyniol. Yr unig beth, roedd y cake wedi malu tipyn ond bydd yr un mor dda. Maent mor rough hefo parseli fel mai crushio tipyn wnant os na byddant mewn cardboardbox neu rhyw din neu rhywbeth.

Mae ychydig o gardboard neu rhywbeth yn eu cadw yn o arw. Ond fe roedd y parsel yn rhagorol. Er syndod, roedd pob un o'r wyau yn gyfain. Roeddwn yn falch iawn o'r muffatease a'r socks. Mae muffatease yn wirioneddol handi. Pwy oedd y weureg os gwn i?

Wel, nid yw wedi meirioli eto fel roeddwn yn tybied yn y llythyr blaenorol y gwnai, ond pan allan o'r line does dim curo ar y tywydd caled yma. O ie, ond nis gwn sut y bu i chwi feddwl, ond fe roeddwn mewn angen toothbrush.

Nid wyf wedi derbyn llythyr oddi yna ers ychydig rwan ond mae rhai ar y ffordd rwyf yn gwybod. A ydych chi yn dal i gael fy llythyrau i yn o regular? Rwyf yn ceisio ysgrifennu mor aml ac sydd bosibl, ond yn ystod y dyddiau y byddwn yn y front-line nis gallwn ysgrifennu yn rhyw dda iawn. Weithiau y cewch y lwc o rhywun yn mynd allan i'r supports a'i gymryd. Mae gennyf winthrew o fy nwylaw felly nis gallaf ysgrifennu yn dda iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn i chwi am y parsel sydd mor werthfawr i ni allan yma. A derbyniwch fy nghofion gwresocaf.

Eich Mab,

Arthur

Image copyright Getty Images
Image caption "Gwae i fi fyw mewn oes mor ddreng" - Un o ffosydd y Rhyfel Mawr

15 Chwefror 1917

Annwyl Deulu

Daeth eich llythyr i law yn saff. Y llythyr dyddiedig y 9ed yn cynnwys y 10/- note. Diolch yn fawr iawn i chwi amdano. Credaf y cawn fynd allan o'r line am dipyn o rest cyn hir, i.e. dipyn i ffwrdd o sŵn y gynnau. Rydym wedi bod am dros fis rwan yn y line ac allan yn y supports bob yn ail, felly mi gredaf y daw ychydig o bres yn ddefnyddiol iawn.

Nid oeddwn wedi derbyn y llythyr pan yn cydnabod derbyniad y parsel, felly fyddwch chi mor garedig â datgan fy niolchgarwch gwresocaf iddo ac y deuaf a chlamp o Eryr mawr o Germani adref hefo fi yn ginio Gwyliau iddo. Felly bydd ganddo rywbeth i edrych ymlaen tuag ato.

Diolchwch yn ofnadwy i Gweni y Graig am yr wyau. Maent yn rhagorol i frecwast, yr unig fai sydd arnynt - maent yn gwneud imi feddwl nad wyf yn yr army ond ar ôl gorffen, ffeindio mai yma yn Ffrainc yr wyf. Wel, diolch yn fawr amdanynt oll a gallaf eich sicrhau fy mod yn cael llawn budd a mwynhad gyda'r parsel.

Clywsom unwaith fod John y Coed wedi ei glwyfo a hynny y diwrnod cyntaf yr oedd yn y line. Clywsom ni mai ei hitio gan shrapnel gadd o, ond ni chlywsom ddim ym mha le yr anafwyd ef, na pha mor ddrwg.

Os gwelwch chwi rywun o'r Coed dywedwch wrthynt am fy nghofio ato yn ofnadwy gan ddisgwyl iddo gael iachad buan. Mae Wil Lloyd a minnau yn dal hefo'n gilydd o hyd ac yn gwmpeini mawr i'n gilydd a dymuna anfon ei gofion gorau atoch oll.

Wel, mae bron iawn yn rhyfel o'r diwedd rhwng America a Germani. Rydym ni allan yma yn credu yn siwr braidd fod Germani wedi mynd i'r eithafion nad yw o wahaniaeth ganddi pe deuai America allan yn ei herbyn fel y gallai ddweud fod y byd o'r bron yn ei herbyn ac felly mai gwaeth iddi roi ei harfau i fyny. A thrwy hynny rydym yn byw mewn gobaith o gael heddwch yn gynt nac mae llawer yn credu.

Byddaf yn edrych ymlaen yn arw am lythyr i wybod pa class y pasith Ifor achos nid oes arnaf eisiau ei weld yn y dillad beth bynnag. Cawsom sport ofnadwy heddiw, - aeroplane i ni yn paffio un y Germans ac i lawr ac un yr hen German ac un ninnau yn dod i lawr yn araf. Credaf fod un o'n dynion ni wedi ei glwyfo hefyd ond fe rydym yn eu curo yn arw yn yr awyr ac ar y môr.

Wel, peidiwch a phoeni yn fy nghylch i achos rwyf yn olreit a fy nhraed yn well lawer. Rhaid terfynu.

Gyda chofion fyrdd,

Eich Mab, Arthur.

Cafodd Arthur Edwards ei ladd ar gyrion Ypres ar 18 Chwefror 1917

Image caption Ypres yn cofio - Cofio'r miloedd o filwyr fu farw ar faes y gâd

20 Chwefror 2017

Annwyl Ewyrth

Drwg gennyf anfon atoch y newydd fod Arthur wedi ei ladd ar y 17eg o'r mis hwn. Gwnaed raid at y German trenches - mynd dros y top; mae'n debyg gennyf mai wrth ddod yn ôl y cafodd ei daro. Nid oeddwn gydag ef ond roedd cyfaill oedd gyda mi efo fo; roeddem yn wahanol bartïa.

Roeddwn ofn anfon yn gynt nes y clywswn y gwir amdano. Fe gewch ragor o newydd pan gaf amser. Mi roedd ganddo sypyn o bres - roedd wedi dweud wrthyf fi am ei gadw ac rwyf yn ei anfon i chi pan gaf bres y wlad yna. Hanner sofran oedd ganddo, bydd yn dda gennyf gael gair pan gewch amser. Terfynaf ar hyn gan gofio atoch oll.

55335 Will Lloyd Edwards,

A Cog 4 Plt.,

4 Batt.R.W.F.,

B.E. Force, France.

Image copyright PA

Dyma gerdd deyrnged i Arthur Edwards gan ei ewythr Dafydd Williams

Militariaeth foneddigaidd

Yn ei gwisg o sidan glân,

Alwodd heibio i'w orfodi

Ef i adael gwaith a chân;

Gadael siop y mwyn fferyllydd

Gadael teulu'n min y mynydd,

Gadael llwybrau bywyd dedwydd

Am beryglon 'maes y tân'.

Drymder nos yn ymyl Ypres

Aeth i ganol 'storom gref,

Storm yn llawn o fellt y gelyn

Yn gwibio draws ei lwybr ef;

Colli'i ffordd, a cholli'i gwmni

Colli'i fywyd yn y d'rysni,-

Colli popeth - ond Goleuni

Duw ar dawel fryniau'r Nef.

Wedi'r nos, y storm a'r colli

Gwawriodd arno drannoeth gwyn,

Dydd heb nos a deddfau Bywyd

Mewn llawn dwf tu hwnt i'r glyn;

Dim ond atgo pell am ormes

Awdurdodau'r byd a'i rodres

Deimla ef; a'i bwys ar fynwes

Aberth drud Calfaria fryn.

Image copyright Arall

Cliciwch i ddarllen rhagor am hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru