Clegg: 'Ni yw'r dewis amgen'

Clegg

Mae Nick Clegg wedi beirniadu'r Torïaid yn ei araith wrth iddo geisio amlinellu'r gwahaniaeth rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a phlaid David Cameron.

Fe wnaeth gyfaddef ei fod yn anhapus gyda nifer o weithredoedd y llywodraeth ond gan fynnu y byddai pethau wedi bod yn waeth petai ei blaid ddim yn rhan ohoni.

Ond dywedodd hefyd bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng ei blaid â Llafur ac mae dim ond ei blaid ef all amddiffyn gwerthoedd rhyddfrydol Prydeinig.

"Wnaiff Llafur ddim amddiffyn y gwerthoedd hynny," meddai.

'Ofnadwy o falch'

Ychwanegodd Mr Clegg: "Hyd yn oed ar ôl pedair blwyddyn mewn fel gwrthblaid does gan Lafur ddim byd i'w ddweud, neu maen nhw wedi anghofio dweud, unrhyw beth o werth ar yr economi.

"Wnaiff y Torïaid ddim chwaith. Clywsom bopeth roeddem angen ei glywed yr wythnos ddiwethaf: mae Ceidwadaeth drugarog wedi marw ac wedi'i gladdu.

"Os caiff llais y Democratiaid Rhyddfrydol ei dawelu yng ngwleidyddiaeth Prydain mi fyddai'n gwlad yn fwy cas, yn dlotach ac yn wannach o ganlyniad."

Er iddo feirniadu ei bartneriaid yn y glymblaid, dywedodd ei fod yn "ofnadwy o falch o'r hyn mae wedi ei gyflawni mewn llywodraeth" gan ddweud bod y llywodraeth wedi llwyddo i wella'r economi.

'Clymblaid'

"Ar ôl etholiad 2010 ni fyddai'r Ceidwadwyr wedi gallu ffurfio llywodraeth na sicrhau'r adferiad economaidd heb y Democratiaid Rhyddfrydol, a ni fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gallu sicrhau'r adferiad economaidd heb y Ceidwadwyr.

"Clymblaid yw'r enw ar hynny, ac yn fy marn i bydd Prydain yn cael mwy yn y dyfodol. Dydi hynny ddim yn golygu na ddylen ni siarad gyda'r partneriaid clymbleidiol pan mae anghytundebau a ffraeo.

"Ar y gwrthwyneb - peidiwch â dal yn ôl. Ond dyw hynny ddim 'run fath a golchi'n dwylo o'r holl beth, mae hynny'n rhywbeth fyddwn i fyth yn ei wneud.

"Achos dydw i ddim yn credu y byddai'r cyhoedd yn derbyn hynny am eiliad. Maen nhw'n gwybod ein bod ni wedi bod mewn llywodraeth yn y Senedd hon a dydyn ni ddim am ddechrau smalio ei fod ddim byd i wneud â ni."

O ran cyhoeddiadau o beth fydd yn eu maniffesto, cyhoeddodd Mr Clegg y polisïau canlynol:

  • Codi'r lwfans personol i £12,500 (ar hyn o bryd mae'n £10,500, wedi ei godi o £6,500 yn 2010 gan y glymblaid);
  • Codi £1 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, drwy godi mwy o dreth ar bobl gyfoethog;
  • Cyflwyno targedau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl i gael eu trin gan y gwasanaeth iechyd;
  • Cyflwyno pum treth 'gwyrdd' newydd er mwyn amddiffyn yr amgylchedd
  • Ymrwymiad i bleidleisio yn erbyn y Bil Data Cyfathrebu (sy'n cael ei alw gan Mr Clegg yn Snooper's Charter) os yw'r Torïaid yn ceisio'i gyflwyno eto.

Ymddiheuriad

Fe ymddiheurodd Mr Clegg am fethu â chadw addewid y blaid i gael gwared ar ffïoedd dysgu.

Dywedodd: "Pan wnes i ymddiheuro am y siom a'r dicter gafodd ei achosi am ein bod wedi methu â sgrapio ffioedd dysgu, ro'n i'n gwybod na fyddan ni fyth, fyth yn gwneud y camgymeriad yna eto.

"A wnawn ni ddim...

"Sut wnewch chi ein beirniadu ni? Drwy'r un polisi wnaethon ni fethu â'i gyflawni mewn llywodraeth, ta'r polisïau di-ri lwyddon ni i'w cyflawni?"

Ychwanegodd: "Efallai ein bod ni ddim yn ddiniwed ddim mwy fel yr oedden ni gyda rhyddid bod yn wrthblaid, efallai mai nid fi yw'r dyn ar y tu allan ddim mwy, ond rydyn ni yn sefyll am fath wahanol o wleidyddiaeth."

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi cyhoeddi nifer o bolisiau mewn cysylltiad â Chymru yn gynharach yn y gynhadledd, gan gynnwys cynyddu'r arian mae'n ei derbyn, trosglwyddo llu o bwerau newydd a dileu'r ffi ar Bont Hafren.

Straeon perthnasol