Leighton Andrews: Cwestiynu diffyg cysondeb cynghorau

Leighton Andrews
Image caption Cafodd Leighton Andrews ei benodi yn Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Medi

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, wedi dweud y gall ofyn i'r Archwilydd Cyffredinol edrych ar y cronfeydd ariannol wrth gefn sydd gan gynghorau Cymru.

Dywedodd Mr Andrews wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ei fod yn ystyried gofyn am gyngor yr Archwilydd Cyffredinol oherwydd "nad yw wedi'i argyhoeddi bod agwedd cyson ar draws Cymru".

Cafodd awdurdodau lleol yng Nghymru wybod ddydd Mercher y byddai cyfanswm eu cyllidebau'n cael eu torri o £146 miliwn y flwyddyn nesaf.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod gan awdurdodau lleol gronfeydd wrth gefn gwerth cyfanswm o £1 biliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Diffyg cysondeb

Mae ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru wedi dweud bod gwahaniaethau mawrion rhwng cronfeydd wrth gefn gwahanol gynghorau yng Nghymru, gyda rhai awdurdodau'n cadw mwy na 20% o'u cyllideb flynyddol mewn cronfeydd wrth gefn.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ynglŷn â chyllideb drafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Andrews ei bod hi'n briodol cwestiynu lefelau "sylweddol" y cronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau, a hynny oherwydd y toriadau i'w cyllidebau.

Dywedodd: "Rydw i'n meddwl bod rhaid gofyn y cwestiwn, beth yw bwriad y cronfeydd wrth gefn? Rydw i'n credu bod y cronfeydd yno am nifer o resymau.

"Weithiau mae'r cronfeydd yn bodoli ar gyfer cynllunio doeth ar gyfer y dyfodol o ran buddsoddiadau cyfalaf mawr.

'Eisiau archwilio'

"Weithiau mae'r cronfeydd yn bodoli ar gyfer diwrnod glawog. Rydw i'n credu bod y diwrnod glawog hwnnw wedi bodoli ers blwyddyn neu ddwy ac rydw i'n credu bod rhaid i ni ofyn, yn blwmp ac yn blaen, i ba raddau mae'r cronfeydd yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac i ba raddau mae disgwyl i lywodraeth leol fod yn berchen ar gronfeydd o'r fath mewn cyfnod mor anodd.

"Efallai y byddai eisiau cychwyn trafodaeth gyda phobl eraill yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys yr Archwilydd Cyffredinol, ynglŷn â beth yw'r ffordd fwyaf call o ddefnyddio'r cronfeydd mewn cyfnod anodd."

Dywedodd y gweinidog ei fod yn deall bod y rhan helaeth o'r arian mewn cronfeydd wrth gefn eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer ei wario, ond bu'n cwestiynu'r diffyg cysondeb.

Ychwanegodd Mr Andrews: "Mae hi'n ymddangos i mi, a hynny drwy edrych ar y mater yn eithaf arwynebol a dim ond pedair wythnos wedi i mi gychwyn y swydd, nad oes agwedd gyson ar draws Cymru.

"Ond rydw i hefyd eisiau archwilio pa gyngor sydd wedi'i roi i awdurdodau lleol ynglŷn â defnyddio adnoddau eraill."

Straeon perthnasol