Dinas Powys: dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

Fairoaks Image copyright Google
Image caption Fe gafodd heddlu eu galw i fflatiau preswyl Fairoaks ddydd Mercher

Mae heddlu wedi cyhuddo dyn 73 oed o Ddinas Powys o lofruddio dyn arall.

Mae Alan Rogers yn byw yn fflatiau preswyl Fairoaks i'r henoed yn y pentref.

Roedd y dyn fu farw - Fred Hatch, 76 oed - hefyd yn byw yno.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o drafferthion yn Fairoaks am 09:25 dydd Mercher, 8 o Hydref.

Roedd Mr Hatch wedi dioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ble bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ceri Hughes: "Rydym yn awyddus iawn i dawelu meddyliau yn y gymuned mai digwyddiad unigol oedd hwn, er ein bod yn gwerthfawrogi bod y digwyddiad wedi peri pryder i drigolion yn ardal Fairoaks.

"Mae swyddogion yn cefnogi teulu'r dyn fu farw ar adeg anodd iawn iddyn nhw."

Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad ar digwyddiad.

Mae disgwyl i Mr Rodgers ymddangos yn y llys fore Gwener.

Straeon perthnasol