Cyngor Gwynedd: Cytuno i drafod uno

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid cynnal trafodaethau pellach all arwain at uno cynghorau Gwynedd a Môn.

Pleidleisiodd 47 o gynghorwyr o blaid trafod uno, 3 yn erbyn a phenderfynodd 5 cynghorydd ymatal rhag pleidleisio.

Daw penderfyniad cynghorwyr Gwynedd wedi i Gyngor Môn benderfynu gwrthod cynlluniau i uno'n wirfoddol gyda Gwynedd mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ar 30 Medi.

Mewn cyfarfod o'r cyngor llawn, cymeradwyodd y cynghorwyr adroddiad a oedd yn argymell y dylid ystyried uno gyda chyngor arall ar yr amod bod modd profi mai dyma fyddai'r dewis gorau i ddiogelu buddiannau trigolion Gwynedd a gwasanaethau lleol.

'Dim amheuaeth'

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

"Does dim amheuaeth bellach bod llywodraeth leol yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd a bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd os ydym am osgoi sefyllfa lle mae newid yn cael ei orfodi arnom.

"Ni allwn anwybyddu'r toriadau ariannol enfawr sy'n ein hwynebu na chwaith dymuniad Llywodraeth Cymru i leihau'r nifer o gynghorau yn sylweddol yn unol ag argymhellion Adroddiad Williams.

"O ystyried hyn, fel Cyngor rydym wedi penderfynu mai'r ffordd fwyaf cyfrifol i weithredu fyddai i gytuno i archwilio pob dull allai arwain at arbedion ac a fyddai yn eu tro yn cyfyngu ar y toriadau i wasanaethau rheng flaen.

"Mae hyn yn cynnwys trafod y posibilrwydd o uno gyda chyngor neu gynghorau eraill os byddem yn derbyn sicrwydd ar rai materion allweddol."

Chwilio am sicrwydd

Cyn parhau ymhellach i gyflwyno cais i uno, bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar y materion canlynol:

  • y byddai unrhyw drefniadau llywodraethu ar gyfer y dyfodol yn cynnwys trefn i sicrhau deialog ar wasanaethau cyhoeddus ar lefel mwy lleol na lefelau'r cynghorau presennol er mwyn gwella trefniadau atebolrwydd ac ymgysylltu cynghorau ac aelodau lleol unigol gyda thrigolion a chymunedau.
  • y byddai rhaid i'r patrwm o wasanaethau cyhoeddus i'r dyfodol gynnwys rôl ystyrlon i gynghorau tref a chymuned o ran bod yn gyfrifol am, a darparu, rhai gwasanaethau.
  • na fydd cynigion y Comisiwn Ffiniau yn creu wardiau rhy fawr gan y byddai hyn yn gwneud gwaith aelodau lleol o ymgysylltu'n effeithiol gyda'u cymunedau yn anos ac na cheir mwy o wardiau aml-aelod.
  • bod gweithredu Polisi Iaith sydd yn gadarn o blaid y Gymraeg yn allweddol ar gyfer unrhyw gyngor newydd y byddai Gwynedd yn rhan ohono i'r dyfodol
  • sicrwydd am sefyllfa ariannol ac asedau pob partner posib er mwyn gweld pa fath o sefyllfa ariannol y byddai cyngor newydd yn ei etifeddu.

Straeon perthnasol