Atal meddygon o'r gwaith 'yn costio £1m'

Phil Banfield
Image caption Mae Phil Banfield yn dweud y gall atal meddyg o'i waith ddifetha ei yrfa

Mae atal meddygon rhag gweithio, neu 'r bygythiad o wneud hynny, yn cael ei ddefnyddio i ddychryn uwch feddygon rhag codi pryderon am ofal clinigol yn y GIG, yn ôl y sefydliad sy'n cynrychioli miloedd o feddygon yng Nghymru.

Mae BMA Cymru wedi rhybuddio y gall "atal meddygon rhag ymarfer am gyfnodau hir" ddod yn "fesur o gosb," gan fyrddau iechyd ledled Cymru.

Mae'r BMA yn amcangyfrif fod hyn yn costio mwy na £1 miliwn y flwyddyn i'r GIG gan fod y rhai sy'n cael eu hatal rhag gweithio yn parhau i fod ar gyflog llawn tra bod byrddau iechyd yn darparu meddygon locwm i wneud eu gwaith.

Mewn un achos, mae llawfeddyg cardio-thorasig o Gaerdydd wedi cael ei atal dros dro o'i waith ers mis Ebrill 2012 ar gyflog llawn, wrth ddisgwyl canlyniad ymchwiliad disgyblu i honiadau ei fod wedi bwlio cydweithwyr.

Adroddwyd fod y meddyg dan sylw wedi codi pryderon yn y gorffennol am driniaeth claf a oedd wedi dioddef niwed i'r ymennydd.

Dyletswydd i ymchwilio

Dywedodd Dr Graham Shortland, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, "Nid ydym yn cymryd camau disgyblu yn ysgafn, ond yn credu bod pan fydd honiadau difrifol yn cael eu gwneud, mae gan y bwrdd ddyletswydd i gleifion, staff a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu i ymchwilio honiadau o'r fath yn drylwyr.

"Gallwn gadarnhau bod llawfeddyg wedi ei wahardd ers Ebrill 2012.

"Rydym wedi bod yn dilyn proses ddisgyblu Llywodraeth Cymru i sicrhau ymchwiliad llawn a theg.

"Yn anffodus, heb fod unrhyw fai ar naill barti, mae'r broses, sydd eisoes wedi cymryd llawer rhy hir, wedi cael ei ddal yn ôl. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio gallu sicrhau ffordd ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Fe hoffem sicrhau'r cyhoedd bod y bwrdd iechyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â'r mater yma i ben yn gyflym, a dyna sydd er lles pawb dan sylw."

Mae BMA Cymru yn galw am derfynau amser i gael eu rhoi ar ataliadau o'r gwaith, yn unol â gweithdrefn ddisgyblu newydd i feddygon sydd eisoes wedi eu cytuno gyda Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol ers dros flwyddyn yn ôl, ond nad ydi'r gweithdrefnau wedi cael eu gweithredu eto.

Ddim yn cael ei dderbyn

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad:

"Ni fydd aflonyddu neu erledigaeth i unrhyw un sy'n codi pryder gwirioneddol am y gwasanaeth yn cael ei dderbyn."

Mae BMA Cymru yn dweud eu bod yn cynrychioli wyth o uwch feddygon ar draws Cymru sydd naill ai wedi eu hatal neu ar "ddyletswyddau cyfyngedig" wrth aros am ymchwiliad disgyblu.

Maent yn dweud bod dwy ran o dair o'r achosion yma yn codi rywbryd ar ôl i feddyg amlygu pryderon ynghylch agweddau ar ofal clinigol.

Dywedodd Phil Banfield, cadeirydd Cyngor Cymru'r BMA, mai'r "broblem yw, os nad oes terfyn amser i 'atal dros dro' ac os yw'r canlyniad yr ymchwiliad yn bygwth gyrfa meddyg, yna mae'n gwneud i chi feddwl ddwywaith am godi pryderon."

Ychwanegodd: "Rydym yn poeni y gallai byrddau iechyd ddefnyddio hynny i atal meddygon rhag codi pryderon clinigol.

"Dyma farn llawer o'n haelodau, ac rydym wedi bod yn gwrando ar hyn ers peth amser bellach, sef, fod meddygon yn cael eu herlid am godi pryderon am ofal clinigol."

Dywedodd Dr Banfield, mewn rhai achosion, nid yw byrddau iechyd yn dilyn eu polisi a gweithdrefnau eu hunain ar gyfer sut y dylai gwaharddiadau gael eu trin, ac mae'r BMA wedi galw ar gyfarwyddwyr meddygol i adolygu achosion yn rheolaidd.

Image copyright Thinkstock

Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd iechyd yr wrthblaid nad yw "gwaharddiadau tymor hir yn beth da i'r meddyg sydd wedi ei atal rhag gweithio, nac yn beth da i gleifion ac yn sicr nid yw'n beth da i boced y gwasanaeth iechyd.

"Mae beth mae'r BMA wedi awgrymu, fod rhai pobl wedi cael eu gwahardd yn uniongyrchol o ganlyniad i godi pryderon am ofal clinigol, yn gwbl annerbyniol.

"Byddwn yn cefnogi unrhyw weithiwr o fewn y GIG sydd eisiau chwythu'r chwiban ar unrhyw broblem maent yn dod ar ei thraws, yn enwedig o ran gofal cleifion ac os yw'n cael effaith niweidiol arnynt."

Mae BBC Cymru wedi gwahodd y byrddau iechyd i ymateb i honiadau'r BMA, ond nid oeddent yn dymuno gwneud unrhyw sylw.

Dywed Llywodraeth Cymru bydd y gweithdrefnau disgyblu newydd y cyfeirir atynt gan BMA Cymru yn cael eu trafod mewn cyfarfod gyda'r sefydliad yr wythnos nesaf.

Mae'r BMA wedi galw am ymchwiliad annibynnol i holl wasanaethau'r GIG yng Nghymru yn ddiweddar, ac i'r polisi chwythu'r chwiban gael ei ail ysgrifennu.