Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Person yn gweiddi
Image caption Mae pwysau gwaed Iola Wyn yn mynd trwy'r to

Rhyw flwyddyn yn ôl, cafodd Iola Wyn ei galw'n 'rhy ddosbarth canol Cymraeg' yn gyhoeddus.

'A waeth i fi gyfadde', meddai yn ei blog cyntaf erioed ar wefan Ffrwti, roedd hynny'n brifo.

A hithau wedi'i magu mewn tŷ cyngor, gyda phobl yn edrych i lawr eu trwynau arni roedd yn ei chael yn anodd deall y peth.

Yn ôl Iola, wrth i'r Gymraeg esblygu, mae'r term 'Dosbarth Canol Cymraeg' wedi newid.

Mae e bellach nid yn unig yn cyfeirio at ddosbarth digon cefnog mewn cymdeithas, ond hefyd yn cynnwys pobl sydd â gafael cadarn ar eu Cymraeg, pobl sy'n medru treiglo... a'r jôc ydy, dim ond pobl sy'n ymddiddori yn y diwylliant Cymraeg sy'n arddel y term.

Mae ei phwyse gwaed yn mynd trwy'r to pan fydd yn clywed rhywun yn dweud 'Chi bobl ddosbarth canol Cymraeg a'ch iaith bur sy'n mynd i ladd yr iaith!'

Dim ond trwy un weithred mae modd lladd iaith yn ôl Iola, sef gwrthod ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.

A dwli pur yw beio'r trueiniaid yma sy'n honedig yn y 'Dosbarth Canol Cymraeg' am y fath drosedd.

Ffurf gelfyddydol elitaidd?

Image copyright S4C
Image caption Mae Geraint Talfan Davies yn edrych yn ôl dros hanes y Cwmni Opera Cenedlaethol

Un ffurf gelfyddydol sy'n cael ei ystyried yn ddosbarth canol, os nad yn elitaidd gan rai, yw opera.

Dyw hynny ddim yn poeni Geraint Talfan Davies, sydd wedi cyfrannu blog i wefan Cymru Fyw yn edrych yn ôl dros hanes y Cwmni Opera Cenedlaethol, wrth baratoi i ddathlu 70 o flynyddoedd a hynny, yn ol y blogiwr, yr un hinsawdd lem a phan aned y cwmni.

Ond mae'n hyderus am y dyfodol: mae gan gwmnïau artistig wytnwch, meddai, sy'n deillio o'u hangerdd a'u hymroddiad at y dasg - sydd hefyd yn eu galluogi i oresgyn pob sialens ariannol.

Mae llywodraeth yn aml yn cymryd y gwytnwch hwn yn ganiataol.

Ond rhag i chi feddwl fod y cyfan yn rhy uchel-ael, mae Geraint Talfan hefyd yn pwysleisio fod yr angerdd sy'n nodweddiadol o'r cwmni yn codi o'i wreiddiau yn nhraddodiadau cryf cerddoriaeth amatur yng Nghymru.

Crëwyd y cwmni gan Idloes Owen, mab i löwr, athro canu ac arweinydd corawl yng Nghaerdydd.

Gorsedd y Beirdd

Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Elfyn Pritchard sy'n trafod y drefn anrhydeddu

Dipyn o elît, yn ôl rhai, yw aelodau Gorsedd y Beirdd hefyd.

Elfyn Pritchard, sy'n gwisgo'i wisg wen â balchder, sy'n trafod y drefn anrhydeddu yn y Faner Newydd, ac yn gwrthod yn llwyr honiad rhai ei fod efallai'n mynd i o leiaf un o seremonïau'r Orsedd bob blwyddyn er mwyn dangos ei hun.

Beth? Yn y wisg wen a'r benwisg yna sy'n gwneud i bawb ond ambell un fel Mererid Hopwood edrych yn wirion?

Bobol bach nage. Mae'n mynd er mwyn anrhydeddu'r rhai fydd yn ennill ar y dydd - heb aelodau'r Orsedd yn bresennol, meddai, fyddai yna ddim seremoni.

Ac un peth sy'n ei wneud yn flin ydi absenoldeb cymaint o'n henillwyr ni o'r seremonïau hyn.

Maen nhw'n fodlon iawn derbyn y clod a'r anrhydedd, ond welwch chi mohonyn nhw'n agos i'r Orsedd, na'r steddfod chwaith lawer ohonyn nhw, byth wedyn.

Cymeriad lliwgar

Er ei lysenw, go brin y galwai neb David John Underhill, neu Dafydd y Dug, yn ddosbarth canol.

Bu farw'r cymeriad lliwgar o Ben-y-bont fu'n ffigur amlwg yng nghenedlaetholdeb Cymru'n ddiweddar, a Lyn Ebenezer sy'n cofio amdano yn y Cymro.

Benthycodd feic modur ei gyfaill heb ganiatâd un tro, a'i falu mewn damwain.

'Gwranda', meddai Dafydd wrth ei gyfaill, 'Rwyt ti'n gomiwnydd ond wyt ti?' 'Ydw' oedd yr ateb. 'Rwyt ti'n credu mewn perchnogaeth gyfunol?' 'Ydw'. 'Wel,' meddai'r Dug, 'mae'n ddrwg gen i ddweud fy mod wedi malu ein motor beic ni'.

Class.