10 mlynedd dan glo i werthwr cyffuriau

Gwefan Holloway Image copyright Gwent police
Image caption Pan gaeodd yr heddlu wefan Christopher Holloway, fe lansiodd e un arall

Mae dyn enillodd £2.5m drwy werthu cyffuriau "cyfreithlon" ar wefan, wedi ei garcharu am 10 mlynedd.

Roedd Christopher Holloway, 32 oed, yn mewnforio cemegau cyn eu cymysgu a'u pecynnu i'w gwerthu fel "cemegau ymchwilio".

Fe glywodd Llys y Goron Casnewydd bod cwsmeriaid yn eu prynu fel cyffuriau "cyfreithlon" (legal highs).

Fe blediodd Holloway, sy'n dod o Raglan, yn euog i achosion yn ymwneud â mewnforio a gwerthu cyffuriau, a thwyll ariannol.

Fe gafodd ei garcharu am 10 mlynedd.

Fe ddaeth heddlu o hyd i fwy na wyth cilogram o gyffuriau yng nghartref Holloway, â gwerth ar y stryd o oddeutu £3.5m.

Yn ôl swyddogion, roedd Holloway yn rhedeg ymgyrch soffistigedig, ac yn gwerthu cyffuriau i bobl ledled y byd.

Fe ddefnyddiodd ei enillion o fwy na £2.5 miliwn i ariannu "bywyd hynod foethus".

Image copyright Gwent police
Image caption Roedd Holloway'n rhedeg 'ymgyrch soffistigedig' o'i gartref

Fe glywodd y llys ei fod wedi bod ar wyliau i Las Vegas am bum wythnos, gwario $40,000 yn gamblo, aros mewn gwestai moethus a hurio ceir Porsche a Lamborghini i "gyrraedd mewn steil".

'Cemegau peryglus'

Fe ddywedodd y Ditectif Brif Arolygygg Rogert Fortey o Heddlu Gwent fod y cyffuriau gafodd eu canfod yn nhŷ Holloway wedi eu profi'n fforensig, a'u bod nhw "ymhell o fod yn ddiogel".

Roedd nifer o'r cemegau yn cynnwys cyffuriau dosbarth A, B ac C.

Fe ddaeth i'r amlwg fod Holloway yn gwerthu cyffuriau ym mis Mehefin 2012.

Fe gafodd pecyn oedd ar ei ffordd i Raglan ei ganfod mewn warws yn Coventry, a'r label "samples" arno - roedd 'na oddeutu cilogram o gyffur dosbarth B ynddo.

Pan gafodd Holloway ei arestio, fe ddaeth heddlu o hyd i dystiolaeth bod hyd at 13,000 o bobl wedi prynu ganddo ledled y byd - yn cynnwys Yr Alban, Tokyo a Chaliffornia.

Roedd pobl yn parhau i brynu ar-lein pan oedd heddlu'n chwilio tŷ Holloway, ac roedd ganddo £1m yn ei gyfrif banc.

Fe gaeodd yr heddlu wefan Holloway, ond fe lansiodd o un arall er mwyn parhau â'i droseddau. Mae'r wefan honno yn awr ar gau, hefyd.

Image copyright Gwent police
Image copyright Gwent Police
Image copyright Gwent police