Deg anaf, ond dwy gêm allweddol

Gareth Bale yn ysgwyd llaw gyda Chris Coleman Image copyright Getty Images
Image caption Mae Gareth Bale wedi sgorio 10 gôl yn ei 11 gêm ddiwethaf dros Gymru

Pan ddaeth yr enwau o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016, roedd sawl un yn darogan mai dyma fyddai cyfle gorau Cymru ers tro i gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau pêl-droed.

Gyda chwaraewr dryta'r byd yn y rhengoedd ynghyd â sawl un arall o sêr Uwchgynghrair Lloegr, roedd hi'n hawdd gweld pam.

Ond ar ôl ennill eu gêm gyntaf o drwch blewyn yn erbyn tîm gwanaf y grŵp - 2-1 yn erbyn Andorra fis diwethaf - fe fydd Cymru'n paratoi am yr ail gêm heb lu o'u chwaraewyr gorau.

Mae'r rhestr anafiadau cyn i Gymru groesawu Bosnia-Hercegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener yn cynnwys deg chwaraewr gan gynnwys Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Lerpwl), James Collins (West Ham) ac Emyr Huws (Wigan).

Mae'r cyfan wedi gadael y rheolwr Chris Coleman gyda thipyn o benbleth wrth ddewis ei dîm ar gyfer Bosnia a'r gêm yn erbyn Cyprus nos Lun nesaf.

'Hwb seicolegol'

Yr un darn o newyddion da yw nad ydy chwaraewr dryta'r byd - Gareth Bale - ar y rhestr anafiadau.

Mae blaenwr Real Madrid wedi sgorio 10 o weithiau yn ei 11 gêm ddiwethaf i Gymru, gan gynnwys y ddwy yn erbyn Andorra a sicrhaodd y fuddugoliaeth holl bwysig yno, ac mae Coleman yn cyfaddef bod ei bresenoldeb yn eithriadol bwysig.

"Yn seicolegol mae'n hwb enfawr i ni pan mae e'n cerdded ar y cae," meddai.

"Mae'n un o chwaraewyr gorau'r byd ac mae'n gallu creu neu sgorio gôl allan o ddim byd.

"Roeddwn i'n meddwl bod y tîm cenedlaethol cyntaf i mi chwarae ynddo yn 'genhedlaeth euraidd' gyda Neville Southall, Mark Hughes, Ian Rush, Dean Saunders, Gary Speed a Ryan Giggs.

"Ond mae gan y criw yma gyfle i wireddu'r potensial i fod yn genhedlaeth euraidd - ydyn nhw'n ddigon da? Rwy'n credu eu bod nhw.

"Rydym yn ddigon da i wneud rhywbeth dydyn ni erioed wedi gwneud o'r blaen."

Safon y gwrthwynebwyr

Fe fydd Coleman hefyd yn ymwybodol o safon y gwrthwynebwyr nos Wener er i Bosnia-Hercegovina golli eu gêm gyntaf nhw gartref 1-2 yn erbyn Cyprus.

Fe fydd yr ymwelwyr yn dod i Gaerdydd gydag ymosodwr Manchester City Edin Dzeko, Miralem Ojanic o Roma a golwr Stoke Asmir Begovic ymhlith eraill.

Mae hanes o'u plaid hefyd. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau gwrdd mewn gêm gystadleuol, ond yn y ddwy gêm gyfeillgar rhwng Bosnia a Chymru mae un wedi gorffen yn gyfartal gyda Bosnia'n ennill y llall.

Ond mae'r ffaith y bydd Cyprus yn teithio i Gaerdydd ddechrau'r wythnos nesaf yn ysgogiad pellach i'r tîm cartref fynd am ddwy fuddugoliaeth fydd yn eu gadael gyda naw phwynt allan o naw ac mewn sefyllfa gref ar frig y grŵp.

Gyda dros 27,000 o docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer gêm nos Wener, fydd Cymru ddim yn brin o gefnogaeth.

Carfan Cymru yn erbyn Bosnia-Hercegovina (10 Hydref) a Cyprus (13 Hydref):-

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers).

Amddiffynwyr: James Chester (Hull City), Declan John (Caerdydd), Joe Walsh (Crawley Town), Ben Davies (Tottenham), Danny Gabbidon (Caerdydd), Chris Gunter (Reading), Samuel Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton), Ashley Williams (Abertawe).

Canol Cae: David Cotterill (Birmingham City), David Edwards (Wolves), Gwion Edwards (Crawley Town), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Crystal Palace).

Blaenwyr: Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Leicester City), Hal Robson-Kanu (Reading), Jake Taylor (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace).

Straeon perthnasol