Clactona

O ystyried isetholiadau Clacton a Heywood and Middleton pa ffigyrau yw'r mwyaf trawiadol i chi? I fi, nid mwyafrif teilwng Ukip yn Clacton na mwyafrif tila Llafur ym Manceinion sy'n sefyll allan. Mae'r ffigyrau 51.2% a 36.02% yn fwy arwyddocaol. Dyna i chi'r canrannau o'r etholwyr wnaeth drafferthu bwrw pleidlais yn y ddwy etholaeth. Ystyriwch nhw am eiliad.

Dydw i ddim yn cofio unrhyw isetholiad yn cael mwy o sylw na Clacton. Mae'r peth wedi llenwi'r papurau ers wythnosau a'r pleidiau wedi bod yn arllwys gweithwyr i mewn i'r lle. Eto i gyd prin hanner yr etholwyr wnaeth bleidleisio o gwbl a dim ond rhyw ugain y cant ohonyn nhw wnaeth bleidleisio i'r tair plaid fawr draddodiadol.

Heb os mae hynny'n arwydd o anniddigrwydd tost â'r gyfundrefn wleidyddol bresennol ond camgymeriad, yn fy marn i, yw cymharu'r hyn ddigwyddodd yn Clacton a Heywood and Middleton â refferendwm yr Alban rhai wythnosau yn ôl.

Mae sawl gwleidydd a sylwebydd wedi ceisio tynnu rhyw fath o gymhariaeth rhwng yr isetholiadau a'r refferendwm ond ffolineb yw hynny mewn gwirionedd.

Yn gyntaf, wrth gwrs, fe bleidleisiodd 85% o'r etholwyr posib yn y refferendwm ond mae 'na rywbeth pwysicach na hynny. Pleidlais dros, nid yn erbyn, gwleidyddiaeth oedd pleidlais yr Alban boed hynny'n bleidlais dros wleidyddiaeth amgen mewn Alban annibynnol neu dros gadw'r gyfundrefn wleidyddol bresennol.

Un o'r ystrydebau mwyaf blinedig yn ein gwleidyddiaeth yw "we get it". Yn achos Ukip rwy'n credu bod y pleidiau traddodiadol yn deall natur y ffenomen er eu bod yn ansicr sut mae delio a'r peth.

Yn achos yr Alban mae 'na beryg eu bod yn dysgu'r gwersi anghywir a gallasai hynny fod yn gostus iawn - yn enwedig i Lafur.