Gwrthdrawiad yn Llandegla: dau'n cael triniaeth

Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud bod dau wedi cael triniaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Llandegla, Sir Ddinbych.

Roedd un o'r ceir ar dân ar un adeg.

Cafodd yr A5104 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod wedi'r ddamwain am 5:45pm ger Fferm Ty'n y Llidiart rhwng yr A525 a'r A542.