Munster 17-6 Scarlets

Harry Robinson brakes away from Tommy O'Donnell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Harry Robinson

Fe wnaeth y Scarltets golli am yr aill waith y tymor hwn yn y Pro12, Munster yn fuddugol 17-6 yn Limerick.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gem diolch i gol adlam Rhys Priestland.

Er i faswr Munster JJ Hanrahan fethu gyda chic gosb yn gynnar yn y gem, fe lwyddodd i ddod a'r sgôr yn gyfartal gydag ail gic gosb hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf.

Yn fuan wedyn bu'n rhaid i ganolwr y Scarlets Gareth Owen adael gydag anaf i'w goes, gyda Michael TTagicakibau yn dod i'r maes.

Fe wnaeth cais Andrew Smith roi'r Gwyddelod ar y blaen cyn yr egwyl.

Fe wnaeth Hanrahan ymestyn mantais Munster yn yr ail hanner, a hynny ar ôl i Priestland fethu gyda dwy gic gosb.