Undeb yn argymell aelod benywaidd i'r Bwrdd

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Undeb Rygbi yn awyddus i foderneiddio rheoleth y gêm yng Nghymru

Mae'r Undeb Rygbi Cymru wedi argymell newidiadau sylfaenol i'r ffordd mae'r gêm yn cael ei reoli - gan gynnwys penodi aelod benywaidd i'r Bwrdd yn y dyfodol.

Yn ôl yr Undeb mae fe ddylid penodi o leiaf ddau aelod annibynnol i'r Bwrdd sydd yn goruchwylio rheolaeth y gêm - gan gynnwys "yn ddelfrydol" o leiaf un aelod benywaidd.

Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn cynnwys 14 aelod etholedig o ranbarthau'r wlad, a thri chynrychiolydd cenedlaethol a etholir gan yr aelodau a'r Prif Weithredwr.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ymhlith y newidiadau eraill, bydd yn rhaid i bob aelod o'r Bwrdd adael ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth

Yn dilyn adolygiad o drefniadau'r Undeb bydd newidiadau eraill yn cael eu cyflwyno gan gynnwys strwythur newydd o bwyllgorau disgyblu.

Fe ddechreuodd y gwaith o adolygu'r trefniadau gan y barnwr Syr Robert Owen ddwy flynedd yn ôl.

Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno ger born cyfarfod blynyddol yr Undeb ddiwedd mis Hydref.

Dywedodd Rhodri Lewis, Pennaeth Materion Cyfreithiol yr Undeb:

"Mae esblygiad y gêm i gyfnod proffesiynol yn rhoi cyfleodd newydd i ni ac mae'r adolygiad yma yn ceisio gwella a moderneiddio'r ffordd mae'r undeb yn gweithio."