Bocsiwr o'r Bari yn ymladd ei ffordd i'r brig

Selby a Brunker Image copyright PA
Image caption Bydd Selby nawr yn cael cyfle ymladd pencampwr byd yr IBF Evgeny Gradovich o Rwsia

Mae'r paffiwr o'r Barri, Lee Selby, wedi ennill yr hawl i baffio am deitl pwysau plu y byd, ar ôl curo Joel Brunker o Awstralia yng nghanolfan yr O2 yn Llundain nos Sadwrn.

Roedd ergydion y Cymro yn rhy bwerus i'w wrthwynebydd, wrth i'r dyfarnwr orfod camu i atal yr ornest yn y nawfed rownd.

Gan fod y Cymro 27-mlwydd-oed wedi trechu Brunker (a oedd heb golli gornest yn flaenorol) bydd yn cael cyfle nawr i ymladd pencampwr byd yr IBF Evgeny Gradovich o Rwsia.

Ildiodd Selby, sy'n bencampwr Prydain a'r Gymanwlad, ei deitl Ewropeaidd er mwyn gallu ymladd am deitl y byd.

Roedd Selby yn ymosodol o'r gloch gyntaf, a defnyddiodd ei gyflymder i'w fantais, ond yn y bumed rownd fe lwyddodd Selby i ddangos ei fod yn ormod o rym i Brunker allu ymdopi, gan iddo lanio sawl ergyd galed ar y gŵr o Awstralia.

Ymarfer yn Las Vegas

Roedd Brunker eisoes wedi bod yn ymarfer gyda Selby, bu'r ddau yn sbario yng nghampfa Floyd Mayweather yn Las Vegas ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth Brunker adennill ychydig o dir yn ystod y ddwy rownd nesaf er gwaethaf anaf amlwg uwchben ei lygad dde.

Gydag un ergyd anferth i ochr Brunker, cipiodd Selby yr ornest yn y nawfed rownd wrth i'r dyfarnwr Marcus McDonnell atal y frwydr.

Wrth siarad â Sky Sports, dywedodd Selby: "Rydw i wedi bod yn euog o fynd 'gyda'r llif' trwy fy ngyrfa focsio, ac wedi bod yn ei chael hi'n rhu hawdd. Ond hwn oedd fy rhagbrawf olaf. Roedd yn rhaid i mi brofi fy mod yn barod i ymladd am deitl y byd."