Chwaraewr rygbi Cymru yn wynebu gwaharddiad hir

Mae prop Cymru a Wigan, Ben Flower yn wynebu gwaharddiad hir o'r gêm, ar ôl iddo gael ei hel o'r cae yn Old Trafford ddydd Sadwrn,

Cafodd gerdyn coch yn dilyn ymosodiad arswydus ar faswr St Helens, Lance Hohaia.

Roedd y chwaraewr rhyngwladol o Gymru ar fin sgorio cais yn y funud agoriadol, ond gollyngodd y bêl cyn croesi'r llinell. Eiliadau yn ddiweddarach mae'n ymddangos iddo golli ei ben yn llwyr. Cafodd Hohaia ei daro yn ei wyneb ddwywaith gan y Cymro o Gaerdydd.

Flower yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei anfon i ffwrdd o'r cae yn rownd derfynol y Super League.

Image caption Y dyfarnwr, Phil Bentham yn dangos y cerdyn coch i Flower

Manteisiodd St Helens ar y ffaith fod Wigan yn brin o un chwaraewr, ac aethant ymlaen i ennill y gêm o 14-6 pwynt, diolch i geisiau yn yr ail hanner gan Tommy Makinson a Sia Soliola.

Am gyfnod ddydd Sadwrn, Flower oedd y pwnc llosg ar Twitter ym Mhrydain ac mae'n edrych yn sicr o fod yn destun sgwrs am beth amser i ddod.

Cafodd Hohaia gymorth i adael y maes yn dilyn yr ymosodiad, ond dychwelodd ar ôl y chwiban olaf i gymryd rhan gyda'i gyd-chwaraewyr i ddathlu eu buddugoliaeth.

Mae Ben Flower wedi ymddiheuro am y dyrnu: "Mae'n ddrwg calon genyf am yr hyn a ddigwyddodd neithiwr (nos Sadwrn).

"Nid oes unrhyw amddiffyniad i fy ngweithredoedd. Roedd yn rhywbeth a ddigwyddodd yng nghanol emosiwn y gêm pan oedd adrenalin yn rhedeg yn uchel. Mi wnes ddifaru yn syth ac rwyf yn edifar fy mod wedi caniatáu fy hun i ddyrnu rhywun fel hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran y Gynghrair Rygbi mai penderfyniad Hohaia a St Helens yw a ddylid cymryd camau pellach tu allan i awdurdodaeth y gêm, fel arall bydd yr achos yn mynd yn ôl yr arfer ger bron y panel adolygu ddydd Llun.

Image caption Sbardunodd yr ymosodiad ffrwgwd rhwng y ddau dim