Llafur yn bwriadu delio â mewnfudo

wayne david
Image caption Mae Wayne David AS wedi dweud fod atal pobl rhag dod i'r DU yn peryglu cyfleoedd bobl Prydain i weithio dramor.

Mae cynorthwyydd seneddol i Ed Miliband wedi dweud na fydd y blaid Lafur yn "twyllo pobl ar y pwnc o fewnfudo" - mewn ymgais i wfftio her gan UKIP.

Dywedodd Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David wrth raglen BBC Cymru - Sunday Politics, fod atal pobl rhag dod i'r DU yn peryglu cyfleoedd bobl Prydain i weithio dramor.

Dywedodd Mr David, sy'n ysgrifennydd seneddol preifat i Miliband, byddai Llafur yn "cryfhau" eu polisïau ar fewnfudo.

Daw ei sylwadau ar ôl UKIP ddod o fewn 617 pleidlais i fuddugoliaeth yn erbyn Llafur yn yr is-etholiad yn etholaeth Heywood a Middleton.

"Mae gennym bolisïau ar fewnfudo a byddwn yn gweithio i gryfhau a datblygu'r polisïau rheini yn ystod y misoedd nesaf." meddai Mr David.

"Nid ydym yn mynd i dwyllo pobl a dweud ein bod yn mynd i atal mewnfudo.

"Rydym yn poeni os byddwn yn atal pobl rhag dod i mewn i'r wlad, yna byddwn atal cyfleoedd enfawr i bobl Prydain i gael gweithio dramor."