Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio cymydog

Fairoaks Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r tai, sydd dan ofal warden, ddydd Mercher

Mae dyn 73 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio cymydog ar stad o dai ym Mro Morgannwg.

Yr honiad yw bod Alan Rogers wedi lladd un o'i gymdogion gyda morthwyl ar stad dai Fairoaks, Dinas Powys.

Bu farw Fred Hatch, 76, yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ar ôl cael ei anafu ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd Mr Rogers ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn y llys eto ym mis Rhagfyr.