Meddyg wedi 'ymyrryd â hawliau Cymraeg'

Arwydd Ysbyty Glan Clwyd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi dyfarnu bod meddyg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymyrryd â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg.

Daw'r dyfarniad mewn adroddiad yn dilyn ymchwiliad statudol i gais gan unigolyn oedd yn honni bod meddyg yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gorchymyn Dorothy Williams i beidio cyfathrebu'n Gymraeg gyda'i phlentyn, gan ddweud y byddai hynny'n sarhad personol iddi.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod wedi ymddiheuro i'r rhiant a'r plentyn a'u bod yn derbyn argymhellion y Comisiynydd.

Yn siarad ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru, dywedodd Dorothy Williams bod penderfyniad y comisiynydd yn "ryddhad", a'i bod yn gobeithio bod y bwrdd iechyd wedi "dysgu gwersi, ac y byddan nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei ddweud..."

'Ymyrryd â rhyddid'

Cynhaliodd y Comisiynydd ymchwiliad i'r achos dan Ran 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Mrs Williams a gan y Bwrdd Iechyd.

Yn yr adroddiad, dywedodd y Comisiynydd ei bod o'r farn "bod y meddyg wedi ymyrryd â rhyddid y rhiant a'r plentyn i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg gyda'i gilydd."

Daeth y Comisiynydd hefyd i'r casgliad nad oedd sail gyfreithiol i gyfiawnhau'r ymyrraeth â rhyddid y rhiant a'r plentyn i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd er mwyn gwarchod iechyd y plentyn.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Nid yw'r Comisiynydd o'r farn y gellid cyfiawnhau'r ymyrraeth ar y sail ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r meddyg i ymgymryd â'i ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu triniaeth feddygol i'r claf.

"Mynegodd y meddyg y farn na ddylai'r rhiant a'r plentyn ymgymryd â chyfathrebiad yn Gymraeg o gwbl. Nid oedd angen cymryd y cam anghymesur hwn," meddai'r adroddiad.

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion i'r bwrdd iechyd:-

  • Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adlewyrchu mewn dogfen bolisi nad yw'n cydoddef unrhyw ymyrryd mewn sgyrsiau rhwng rhiant a phlentyn pan fo rheiny'n arfer eu rhyddid i ystyried a thrafod y gofal iechyd a gynigir fel uned deuluol trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Dylai'r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i'r rhiant a'r plentyn am ymyrryd â'u rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd;
  • Dylai unrhyw hyfforddiant y bwriedir ei gynnig fynd i'r afael yn llawn â gofynion Rhan 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel na fydd staff o fewn cyflogaeth y Bwrdd Iechyd yn ymyrryd mewn modd anghyfiawn â rhyddid unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg â'i gilydd.

Ymddiheuriad pellach

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth y Comisiynydd eu bod wedi gyrru ymddiheuriad pellach i'r rhiant a'r plentyn, a bod rhaglenni hyfforddiant yn cael eu diwygio er mwyn dilyn yr argymhellion.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg o ddifri.

"Rydym yn cydnabod ac yn derbyn ar yr achlysur hwn bod ymyrraeth gan y meddyg gyda rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Roedd gan y meddyg bryderon go iawn am les a diogelwch y claf, ond dylai fod wedi cyflawni ei dyletswydd o ofal i'r claf heb ymyrryd â'i rhyddid i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

"Rydym eisoes wedi gweithredu i ddelio gyda'r mater. Rydym yn derbyn argymhellion y Comisiynydd ac fe fyddwn yn gweithredu ymhellach fel y bo'n briodol."

Straeon perthnasol