Datganoli: Pleidiau'n cytuno i drafod

Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb
Image caption Mae Mr Crabb yn awyddus i gytuno ar ddatganoli

Bu arweinwyr Cymreig y pleidiau yn San Steffan yn cwrdd ddydd Llun i drafod y camau nesaf i Gymru wedi refferendwm yr Alban.

Mewn ymgais i ddod i gytundeb ar y camau nesaf ar ddatganoli yng Nghymru, fe gafodd arweinyddion Cymreig y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru eu gwahodd i drafod eu dyheadau nhw am ddatganoli pellach gydag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb.

Gofynnodd Mr Crabb i'r pleidiau "roi eu gwahaniaethau gwleidyddol i'r naill ochr am y tro er mwyn dod i gytundeb ar y mater".

Dywedodd: "Mae'r bobl yn gofyn i ni fwrw ymlaen gyda phenderfyniadau cyfansoddiadol er mwyn i ni allu datrys y materion pwysig mae pobl wir yn pryderu yn eu cylch - yr economi, y gwasanaeth iechyd ac addysg.

"Y materion yma, ar ein stepen drws, sydd wir o bwys."

Yn ôl Mr Crabb, roedd 'na gytundeb i gydweithio ar "gynigion penodol" ar ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru.

Trafodaethau misol

Ychwanegodd y byddai'r aelodau'n cwrdd unwaith y mis o hyn ymlaen i drafod "cynigion penodol, gan ddefnyddio gwaith Comisiwn Silk, ond nid dim ond hynny, er mwyn ceisio datblygu rhai cynigion, fel y medrwn ni ddangos i bobl Cymru cyn yr etholiad cyffredinol nesa' ein bod o ddifri ynghylch cryfhau datganoli a gwneud iddo weithio i bawb."

Wrth ymateb wedi'r cyfarfod, dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith: "Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol ac roedd yn galondid clywed fod Ysgrifennydd Cymru'n barod i drafod gyda Llafur a'r pleidiau eraill ar sut i symud datganoli 'mlaen yng Nghymru, tra'n cynnal cryfder yr Undeb.

"Fe wnes i bwysleisio am yr angen i'r llywodraeth sicrhau trefn ariannu deg i Gymru ac rwy'n falch ei fod i weld yn barod i edrych ar y mater. Rwyf hefyd yn falch fod brwdfrydedd newydd yr Ysgrifennydd Gwladol i weld yn ymestyn i 'bwerau sydd wedi'u cadw'n ôl' a'r egwyddor y dylai pobl Cymru gael yr un cyfle i gael yr un lefel o ddatganoli â'r Alban - os ydyn nhw eisiau.

"Yn ola', fe wnaeth Llafur hi'n glir na ddylai datganoli pellach i Gymru a'r Alban fod yn esgus i leihau dylanwad Cymru a'r Alban yn San Steffan."

Mae yna rymoedd ariannol newydd eisoes ar eu ffrodd drwy'r Senedd yn San Steffan.

Roedd cyfle hefyd i Dŷ'r Arglwyddi drafod newidiadau i Fesur Cymru ddydd Llun, all rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio trethi yn y dyfodol.

Mae yna un newid mawr - sef tro pedol gan Swyddfa Cymru, i geisio cael gwared ar gyfyngiadau ar y grymoedd treth incwm er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru' i osod gwahanol gyfraddau ar gyfer y bandiau treth incwm.

Straeon perthnasol