O Gymru i Kenya: Profiadau'r Milwyr

Askari storm

Mae Elen Wyn yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Newyddion 9 fel gohebydd yn y Gogledd. Ond yr wythnos hon mae hi wedi mentro yn dipyn pellach, i gyfandir Affrica.

Mae hi yn Kenya ble mae nifer o filwyr o Gymru yn ymarfer. Mae hi'n rhannu ei hargraffiadau gyda BBC Cymru Fyw:

Disgyblaeth

Roeddwn i wastad wedi meddwl mod i'n rheoli rhyw orchwyl milwrol tynn yn tŷ ni bob bore yn ystod yr oriau hynny cyn i'r plant adael am yr ysgol.

Erbyn hyn fodd bynnag, dwi'n dallt nad ydi fy nghamp foreol yn fawr o orchest wedi'r cwbl, achos wedi treulio dyddiau yng nghwmni'r Gwarchodlu Cymreig yn Kenya dwi wedi profi be' ydi military operation go iawn!

Be bynnag fo'ch barn am y fyddin neu am ryfela mae yna un peth yn sicr, mae milwyr yn gorfod dilyn trefn aruthrol o gaeth. Mae popeth maen nhw'n neud ac ar fin ei wneud wedi ei drefnu i'r funud (neu i'r eiliad weithiau), ac mae'n dipyn o agoriad llygaid.

Newid byd

Ers chwe wythnos bellach mae 800 o filwyr o'r Gwarchodlu Cymreig ynghyd â 30 o Fyddin Diriogaethol y Cymry Brenhinol wedi ymgartrefu dros dro yng ngogledd Kenya ar gyfer ymarferiad milwrol o'r enw "Askari Storm".

Rhyw 120 milltir i'r gogledd o Nairobi mae eu pencadlys yn Nanyuki, ac yn fanna mae'r p'nawniau'n andros o boeth a'r nosweithiau'n oer ofnadwy.

Roedd y siwrne' o bedair awr i'r gwersyll yn un arw ar sawl cyfrif. Mae'r ffyrdd yn garegog ac anwastad, a'r golygfeydd ar ochr y ffordd yn fwy enbydus na'r lonydd.

Weithiau pan fydd y plant acw yn cwyno am ddarpariaeth y bwrdd swper mi fydda'i (yn gam neu'n gymwys) yn defnyddio'r hen ystrydeb oesol "mi fyddai plant bach Affrica wrth eu boddau'n cael y fath ddewis". A dyma fi rŵan yn gweld y plant bach yma a'm llygaid fy hun.

'Anrhefn lliwgar'

Milltiroedd ar filltiroedd o stondinau pren cam yn llawn o 'sgidiau a bananas, babis ar gefn motor-beics, a dynion yn pi-pi ochr ffordd yn droednoeth. Mae yna dlodi heb os yma, ond yr hyn sy'n frawychus ydi - nid Kenya ydi'r tlotaf o wledydd Affrica o bell ffordd, fedrai ddim dyfalu be fyddai tlodi gwaeth na hyn.

Yn Nanyuki yr un yw'r stori, strydoedd gorlawn o bobl a phlant, a phopeth a phawb ar draws ei gilydd yn un swigen o anrhefn liwgar, lle mae gwlâu ac eirch ar werth ochr yn ochr.

Mae'r gwersyll milwrol ar gyrion y dref, ac yn fanno mae'r anrhefn yn stopio. Yn fama' mae pawb a phob dim yn sownd i amserlen gyfyng.

Nid yn y gwersyll ei hun mae'r hyfforddi'n digwydd. Mae'r gweithgareddau i gyd yn cael eu cynnal rhai oriau oddi yma ar wastatiroedd llychlyd gwarchodfeydd natur cyfagos.

Y bygythiad mwyaf

Dysgu sut i ymdopi mewn rhyfel ydi'r nod, ond yn fan hyn nid bwledi fel y cyfryw ydi'r bygythiad mwyaf- ond eliffantod. Mae sawl milwr yn mynd i fynd adra efo'i stori rhyfel ei hunain am ddod wyneb yn wyneb â llewod, jiráffs, sebras, a rhai mwyaf hy a pheryglus ar adegau - y baboons!

Ers degawd bellach mae milwyr Prydain wedi bod yn canolbwyntio ar ddysgu sut i amddiffyn yn erbyn gwrthryfelwyr terfysgol sydd fel rheol yn cuddio ymysg pobl gyffredin ar lawr gwlad, ond gyda'r lluoedd yn gadael Afghanistan mae'r fyddin hefyd yn gorfod addasu eu dulliau hyfforddi ar gyfer y dyfodol.

Yn Kenya maen nhw'n canolbwyntio ar sgiliau rhyfel mwy traddodiadol. Yn ystod yr wythnosau maen nhw wedi bod yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd ffug sy'n profi gallu a medrau'r milwyr ar bob lefel.

Roedd y cwbl yn cyrraedd penllanw ddydd Llun pan gawson nhw eu brwydr olaf yn erbyn milwyr go iawn, ond doedd nad dim bwledi go iawn - rhai laser oedden nhw.

Milwyr rhan amser?

Dyma'r tro cyntaf i filwyr o Fyddin Diriogaethol y Cymry Brenhinol gael ymuno â'r Gwarchodlu Cymreig, ac erbyn 2020 mae disgwyl y bydd Byddin Prydain yn dibynnu'n fwyfwy ar filwyr rhan amser.

Tydi pawb ddim yn gweld hyn yn beth da fodd bynnag. Tydi Steven Jones o Aberystwyth, sy'n Is-Gorpral, ddim yn meddwl eu bod nhw'n cael digon o hyfforddiant.

"Tydi e ddim yn beth da - dydyn nhw ddim yn cael yr un training â ni... dydyn nhw ddim mor good â ni. Dwi ddim yn licio fe. Dy nhw jest ddim yn gweithio fel ni drwy'r wythnos, dyw nhw ddim mor well trained. Smo fi'n lico fe.... Na."

Mae Eifion Griffiths, sy'n Ddirprwy Swyddog Cyflenwi'r Gatrawd o Rostryfan, yn anghytuno.

"Maen nhw'n dda... neith hi gymryd lot o amser iddyn nhw setlo fewn ac i ni weithio hefo nhw hefyd.

"Dwi'n gobeithio y bydda ni'n dod yn fwy agos ac yn well. Mae 'na lot ohonyn sy'n fama wedi bod yn Afghanistan ddwywaith. Mae o'n hollol deg bo nhw'n neud 'run fath a ni achos maen nhw'n cael yr un cyflog a'r hogiau go iawn."

'Dim byd tebyg i gemau fideo'

Dros baned un noson nes i gyfarfod Siôn Prysor Williams o Ddyffryn Nantlle - mi wnaeth o ymuno â'r Gwarchodlu Cymreig am fod ei dad hefyd wedi bod yn y fyddin am flynyddoedd. Mae o'n gobeithio y bydd ei brofiadau yma yn ei helpu i fynd ar daith nesa'r gatrawd i Afghanistan ymhen dwy flynedd.

"Yn bersonol dwi'n gobeithio cael mynd i Afghanistan jest i gael y profiad o fod yna. Mae'r hogiau adra' ar X-box ac yn sbïo ar gemau fel Call of Duty a ma' nhw'n meddwl mai fel 'na fydd o.

"Ond pan dwi'n mynd adra o fama, fyddai'n deud wrth yr hogia' - dio'm byd fatha be ti'n weld ar gêms. Mae o'n hollol wahanol.

"Pan ti'n cael casualty o flaen chdi, dos na'm byd fedri di neud amdano fo. Ond dwi'n edrych ymlaen at fynd yna. Dwi jest yn gobeithio gai fynd."

Ymarfer cwffio oedd y bechgyn (ac ychydig o ferched) yma yn Kenya. Mae ymarfer sgil o unrhyw fath yn beth da am wn i, fel canu'r piano neu chwarae rygbi. Mi ddeudodd Eifion Griffiths wrtha i ei fod o fel chwarae pêl-droed yn broffesiynol.

"Ti angen lot o training i allu sgorio gôls, a wedyn ti'n ennill gêms."

Mi wnaeth hyn i fi feddwl - mae chwarae mewn rhyfel go iawn yn gwbl wahanol i bêl-droed wrth gwrs, ac er mai sgorio yn erbyn y tîm arall ydi'r nod, yn sicr does na'm un garfan yn ennill go iawn.