Ymateb i'r archwiliadau ysbyty

Stafell iechyd

Mae nifer o gyrff ac unigolion wedi ymateb i adroddiad oedd yn dangos bod angen gwneud mwy o sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu rhoi a'u cadw yn ddiogel mewn wardiau ar gyfer pobl hyn.

Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wnaeth gomisiynu'r adroddiad a gafodd ei ysgrifennu yn dilyn archwiliadau dirybudd o 70 o wardiau mewn 20 o ysbytai ledled y wlad.

Mae ei ymateb ef i'w weld yn yr erthygl llawn sy'n rhoi manylion ar gynnwys yr adroddiad.

Dyma ymateb rhai o'r bobl eraill sy'n ymwneud â maes iechyd yng Nghymru.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru wedi croesawu'r "ymarfer da" sydd yn digwydd o fewn ysbytai.

Dywedodd mewn datganiad: "Mae Conffederasiwn GIG Cymru, ynghyd â phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth, wedi ymrwymo i wella gofal a gwneud yn siŵr fod pob claf yn cael eu trin â pharch mewn modd proffesiynol.

"Rydym yn llwyr gefnogi galwad y gweinidog am sicrwydd fod methiannau ddim yn digwydd mewn meysydd eraill drwy fynnu ystod o weithredoedd gan gynnwys archwiliadau dirybudd.

"Pam mae safon y gofal yn gostwng islaw'r hyn sy'n ddisgwyliedig mae'n bwysig gofyn cwestiynau a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu."

Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol Ruth Hussey, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ac yn darparu arweiniad ar faterion iechyd, roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o ofal "oedd ddim digon da".

"Y pwyntiau cyffredinol a ddaeth allan i mi oedd bod safon yr arweinyddiaeth ar wardiau yn bwysig iawn," ychwanegodd.

"Mae'r gwaith papur rydym yn gofyn i staff ei gwblhau hefyd yn rhywbeth mae'r Prif Swyddog Nyrsio a minnau'n ei ystyried.

"Allwn ni ei wneud yn haws i bobl wneud eu swyddi o ddydd i ddydd? Maen nhw eisiau gallu gofalu am gleifion, ac os oes pethau allwn ni wneud i hwyluso hyn mi wnawn ni edrych ar hynny.

"Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn cael y gofal cywir 100% o'r amser."

Prif Swyddog Nyrsio Cymru yw'r Athro Jean White, ac mae hi'n credu bod yr adroddiad yn atgoffa staff bod angen cael y pethau sylfaenol yn iawn bob tro.

Dywedodd ei fod yn "rhoi cipolwg ar Gymru fel yr oedd yn ystod yr haf".

"Rydw i wedi cael sicrwydd bod pethau yn ymwneud â hydradu, ymataliaeth a gwneud yn siŵr fod pobl ddim wedi cael gormod o dawelyddion yn cael eu gwneud yn iawn ym mwyafrif yr achosion.

"Mae yna enghreifftiau o ymarfer da allan yna hefyd."

Dywedodd nad oedd rhai o'r atebion tymor byr roedd nyrsys wedi eu cael ar gyfer rheoli cyffuriau - pan roedd y cypyrddau i'w cadw yn rhy fach - yn dderbyniol, ac y byddai ateb fwy cadarn nawr yn cael ei ddarganfod.

Mae llefarydd iechyd yr wrthblaid yn y Cynulliad yn dweud bod angen ymchwiliad llawn i'r gwasanaeth iechyd gan nad yw cyfres o archwiliadau yn rhoi darlun llawn o'r sefyllfa.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Darren Millar: "Er fy mod yn croesawu'r gyfres yma o ymweliadau i wardiau ar gyfer pobl hŷn, mi ddylai archwiliadau dirybudd fod yn digwydd drwy'r adeg fel ffordd o reoli safonau yn GIG Cymru.

"Mae'r adroddiad yma yn cydnabod rhai engreifftiau gwych o ymarfer gorau, a ddylai gael eu rhannu, ond mae hefyd yn dweud bod angen gwella'r cysondeb o ran rhoi a chadw meddyginiaeth.

"Wrth i GIG Cymru barhau i ddelio gyda thoriadau digynsail Llafur mae problemau fel amseroedd aros ofnadwy, meddyginiaethau ddim ar gael i gleifion a chyfraddau marw peryglus o uchel yn rhai fydd ddim yn cael eu datrys gan archwiliadau dirybudd yn unig.

"Er bod pob archwiliad i'w groesawu dyw hyn ddim yn ddigon ac mae angen ymchwiliad annibynnol llawn er mwyn canfod y methiannau o fewn y gwasanaeth iechyd."