Help Llaw

Ar y cyfan dydw i ddim y fath o berson sy'n mwynhau ciniawau ffurfiol ond anodd yw gwrthod ambell i wahoddiad. Roeddwn i'n annerch cinio yng Nghlwb Rygbi Senghennydd dros y Sul a drefnwyd gan un o'r cymdeithasau hynny sy'n gwneud cymaint i ddyrchafu ein bywyd cymunedol.

Codi arian i roi cymorth i bobol ifanc o gefndiroedd difreintiedig i fynd i goleg oedd pwrpas y digwyddiad. Dyw'r ysgoloriaethau a gynigir ddim yn fawr - ond mae'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfleoedd bywyd y rheiny sy'n eu derbyn.

Mae'n debyg mai grwpiau felly oedd ym meddwl David Cameron wrth iddo son am y "gymdeithas fawr" ac mae'n amhosib dadlau nad ydynt yn gwneud gwaith da.

Cwestiwn arall yw a ddylid disgwyl i grwpiau o'r fath ddarparu gwasanaethau lleol wrth i'r sector gyhoeddus grebachu. Mae hynny wedi digwydd i raddau'n barod ond yn ystod y blynyddoedd nesaf fe fydd mwy a mwy o gymunedau'n canfod mae'r unig ffordd i gadw llyfrgell, pwll nofio neu ganolfan gymdeithasol yw trwy ysgwyddo'r baich o'u cynnal.

Y tristwch yw bod cymunedau ffyniannus yn llawer mwy tebygol o wneud hynny na chymunedau difreintiedig. Mewn sawl ardal prin yw'r bobl sydd a'r arian, yr amser a'r sgiliau i ymgymryd â gwaith o'r fath ac mae'r rhwydweithiau cymdeithasol a fyddai'n galluogi i hynny ddigwydd yn wan neu wedi llwyr ddiflannu.

Ymdrech i geisio creu a chryfhau'r rhwydweithiau hynny yw rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf' Llywodraeth Cymru. Cynllun yw hwnnw sy'n hawdd ei gollfarni a theg yw dweud bod y canlyniadau wedi amrywio o'r rhagorol i'r llwgr.

Y bwriad oedd creu'r fath o strwythurau cymdeithasol a fyddai'n gallu manteisio ar y cymorth sydd ar gael i'n cymunedau mwyaf anghenus. Doedd hynny byth yn mynd i fod yn dasg hawdd ond mae'r toriadau gwariant sydd i ddod yn golygu bod y gwaith hwnnw hyd yn oed yn fwy angenrheidiol.