Ceidwadwyr: Na i ddatganoli'r heddlu a chyfiawnder

Andrew RT Davies Image copyright PA

Dydd Gwener bydd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud wrth aelodau ei blaid nad yw'n cefnogi datganoli'r heddlu a chyfiawnder.

Mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud wrth grŵp polisi'r Ceidwadwyr bod cwestiynau yn parhau heb eu hateb ynglŷn ag effaith posibl datganoli'r pwerau hynny ar leihau trosedd.

Roedd adroddiad yn gynharach eleni ar gyfer Llywodraeth y DU wedi argymell y dylid trosglwyddo'r pwerau i weinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, ynghyd â Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am ddatganoli pwerau dros yr heddlu a chyfiawnder ynghyd â'r pwerau eraill gafodd eu hargymell yng Nghomisiwn Silk ar ddatganoli pellach.

A ddoe fe ddywedodd Cadeirydd y Comisiwn Silk, Paul Silk, y byddai'n hoffi gweld Cymru'n gallu defnyddio'r pwerau newydd i leihau'r nifer sydd mewn carchar.

£1.2 biliwn

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cwestiynau yn parhau heb eu hateb ynglŷn â datganoli cyfrifoldeb dros yr heddlu gan gynnwys unrhyw effaith bosib ar gyfraddau troseddu.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth fforwm polisi'r blaid yn ne Cymru: "Gyda chyfraddau troseddu'n disgyn ar hyn o bryd, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r pleidiau eraill ddweud sut y byddan nhw'n parhau gyda'r gwaith calonogol hwn."

Mae Mr Davies hefyd eisiau mwy o wybodaeth ynglŷn â blaenoriaethau gweithredol Llywodraeth Cymru pe baen nhw'n rheoli cyllideb yr heddlu, gwerth £1.2 biliwn.

Yn ogystal bydd yn awgrymu bod rhai Aelodau Seneddol o Gymru yn anghytuno gyda gwleidyddion Bae Caerdydd, gan beidio â chefnogi datganoli'r pwerau.

Image caption Mae gan Andrew RT Davies amheuon am ddatganoli mwy o bwerau i Gymru, gan bod gormod o feysydd yn methu yn barod yn ei farn o

'Gormod o feysydd yn methu'

Mae disgwyl i Mr Davies ddweud: "Mae hi'n ffaith drist bod datganoli wedi cynnig llais Cymreig wrth ddatblygu polisi, ond bod rheolaeth y Blaid Lafur yng Nghymru o'r gwasanaeth iechyd, y system addysg a pholisi economaidd wedi golygu bod gormod o feysydd yn methu.

"Mae hi'n bwysig felly, ein bod ni'n cael atebion ynglŷn â'r materion hanfodol yma, cyn cefnogi unrhyw newidiadau i'n lluoedd heddlu.

"Ar y sail honno, nid ydw i, ar hyn o bryd, yn cefnogi datganoli'r heddlu."

Wrth ymateb i argymhelllion Comisiwn Silk ym mis Mawrth, dywedodd Llywodraeth y DU y dylid ystyried yr argymhellion ynglŷn â'r heddlu a chyfiawnder yn ystod y Senedd nesaf, a dylid cynnwys safbwyntiau'r pleidiau yn eu maniffestos cyn yr Etholiad Gyffredinol ym mis Mai nesaf.

Mae hefyd disgwyl i Andrew RT Davies feirniadu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am roi gormod o bwyslais ar faterion cyfansoddiadol.

'Sigo dan bwysau'

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Mae'r Ceidwadwyr yn ein beirniadu ynglŷn â'r economi yn yr un wythnos ac y mae diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru yn disgyn yn gynt nag unman arall yn y DU.

"Maen nhw'n beirniadu'r gwasanaeth iechyd yn yr un mis ac yr ydyn ni wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o bron i hanner biliwn o bunnoedd.

"Ac eleni, ym myd addysg, rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni canlyniadau ardderchog, gan gau'r bwlch â Lloegr ar gyfer TGAU a Lefel A.

"Rydyn ni'n llwyddo gyda materion bob dydd, tra bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn dirmygu gweithwyr anabl. Dyna'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid.

"Mae hi'n amlwg o'i neges heddiw bod Andrew RT Davies yn sigo dan bwysau o Lundain, ac mae hynny'n dangos nad oes modd ymddiried yn y Ceidwadwyr i warchod buddiannnau Cymru."

Image copyright Roger Donovan
Image caption David Jones (chwith) yn derbyn copi o adroddiad y Comisiwn ar ddatganoli gan y cadeirydd, Paul Silk

Silk: Galw am newid polisi

Mae cadeirydd comisiwn ynglŷn â datganoli yng Nghymru wedi dweud y hoffai pe bai Cymru'n gallu cael gwared ar y "polisiau cyfiawnder troseddol eithaf dialgar" presennol a lleihau'r nifer o bobl sydd mewn carchardai.

Dywedodd Paul Silk bod niferoedd y carcharorion yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu o lai na 40,000 yn 1985 i bron i 90,000.

Ym mis Mawrth dywedodd Comisiwn Silk y dylid datganoli rhai elfennau o'r system gyfiawnder, ac y byddai modd datganoli rhai elfennau eraill wedi hynny.

Ar hyn o bryd mae nifer fawr o garcharorion o Gymru wedi eu carcharu mewn carchardai yn Lloegr.

Roedd Mr Silk yn areithio ym Mrynbuga, Sir Fynwy nos Iau.

'Cwbl bosibl'

Dywedodd ei bod hi'n "gwbl bosibl" y byddai Cymru yn gallu ymdopi'n well gyda'r nifer o garcharorion pe bai ganddi bolisiau cosbi gwahanol.

Defnyddiodd Mr Silk yr Iseldiroedd fel enghraifft o wlad sydd wedi newid ei pholisi er mwyn creu rhagdybiaeth yn erbyn dedfrydau o garchar.

"Yn bersonol hoffwn i weld llywodraeth Cymru yn cael y pŵer i wneud dewis tebyg gan symud oddi wrth y polisiau cyfiawnder troseddol eithaf dialgar sydd wedi gweld nifer y carcharorion yng Nghymru a Lloegr yn cynyddu o lai na 40,000 yn 1985 i bron i 90,000", meddai.

"Ar hyn o bryd mae tua 148 o bobl wedi eu carcharu am bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, i'w gymharu â 98 yn Ffrainc, 82 yn yr Iseldiroedd a 79 yn yr Almaen.

"Pe bai modd mabwysiadu polisi cosbi gwahanol yng Nghymru, byddai hi'n gwbl bosibl datblygu dyfodol ble bydd gan Gymru ddarpariaeth mwy na digonol ar gyfer carcharorion - efallai gyda mwy o garchardai, a'r rheiny'n llai o ran maint ac yn fwy lleol," ychwanegodd.

Straeon perthnasol