Tan Llanrwst
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Goroeswr yn sôn am ei ymdrech achub

16 Hydref 2014 Diweddarwyd 19:49 BST

Wythnos wedi tân angheuol yn Llanrwst, mae'r unig berson i oroesi'r fflamau wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 y BBC sut y methodd achub y ddau a fu farw.

Daeth ymchwiliad i'r casgliad fod Doug McTavish a Bernard Hender wedi marw ar ôl i'r tân gynnau mewn peiriant sychu dillad.

Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer Newyddion 9, mae Garry Lloyd Jones yn cynghori pawb i osod larwm mwg yn eu cartrefi.