Cymorth i'r digartref yn wynebu 'her'

Person digartref Image copyright BBC news grab

Mae ymgyrchwyr digartrefedd wedi honni y bydd rheolau newydd sy'n golygu bod yn rhaid i gynghorau Cymru weithredu er mwyn atal digartrefedd yn creu 'her fawr', a hynny oherwydd toriadau i gyllidebau cynghorau.

Mae penaethiaid elusennau yn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Gwener er mwyn rhannu syniadau ynglŷn â'r ffordd orau i roi cymorth i'r rheiny mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Cymorth Cymru, grŵp sy'n cynrychioli degau o fudiadau.

Dywedodd cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Auriol Miller, ei bod hi'n croesawu'r Ddeddf Dai, ond rhybuddiodd bod gwasanaethau'n cael eu torri.

Dywedodd bod cynghorau'n derbyn £4.9 miliwn yn ychwanegol ar gyfer paratoi ar gyfer eu cyfrifoldebau newydd, ond eu bod nhw hefyd yn wynebu toriadau o bron i £10 miliwn i'w cyllidebau sydd wedi eu clustnodi ar gyfer cefnogi pobl fregus yn 2015-16.

"Maen nhw'n gwneud llawer o waith paratoadol da iawn, ond rydym yn pryderu ynglŷn â'u gallu i wneud y mwyaf o hyn os nad ydyn nhw'n gallu cynnig gwasanaethau cefnogol", meddai.

Bydd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, yn annog cynrychiolwyr i gefnogi "newid sylweddol yn niwylliant darparu gwasanaethau" er mwyn sicrhau bod y cyfreithiau newydd yn llwyddo.

Ychwanegodd: "Yn aml mae pobl gyda phroblemau yn ymwneud â thai yn cael eu gorfodi mewn i feddylfryd o fod yn "ddioddefwyr", gan geisio profi eu bod nhw angen cymorth, yn hytrach na derbyn y gefnogaeth i allu datrys eu problemau a rheoli eu bywydau eu hunain."