Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

peldroed

Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

Mae'r Seintiau Newydd yn mynd o nerth i nerth ar frig Uwchgynghrair Cymru gan iddynt sicrhau'r tri phwynt yn erbyn Caerfyrddin, ond methu dal eu tir wnaeth Bangor yn erbyn Derwyddon Cefn yn Nantporth.

Mae'n rhaid bod Caerfyrddin yn teimlo bod ganddyn nhw gyfle pan welodd Matty Williams o'r Seintiau gerdyn coch wedi dim ond pedwar munud o'r gêm nos Wener.

Ond daeth goliau gan Mike Wyle (8) ac Aeron Edwards (24) i roi deg dyn yr ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl.

Er i Liam Thomas(57) o Gaerfyrddin roi'r bêl yng nghefn rhwyd y Seintiau yn yr ail hanner, llwyddodd TNS i ddal eu gafael ar eu mantais wrth i'r gêm orffen, ddwy gol i un.

Yn y gogledd, methodd Bangor atal Derwyddon Cefn rhag cipio'r triphwynt.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr hanner, ond llwyddodd ymgais hwyr gan Derek Taylor (88) i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Derwyddon.