Damwain: Bachgen mewn cyflwr difrifol

damwain Abertawe
Image caption Bu'r ffordd ynghau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae bachgen 11 oed wedi ei anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad yn ardal Abertawe bnawn Sul.

Mae'n debyg bod car Vauxhall Corsa arian yn rhan o'r gwrthdrawiad ar Ffordd Woodford ym Mlaen-y-maes.

Fe gafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Nawr, mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhywun welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.