Llwyddiant yn Llundain i gorau o Gymru

Y Royal Festival Hall Image copyright Nick Rochowski
Image caption Roedd y rowndiau cyn-derfynol yn cael eu cynnal yn y Royal Festival Hall, yn Llundain.

Mae Côr Iau Glanaethwy a Chôr CF1 wedi llwyddo i ennill lle yn rownd derfynol cystadleuaeth Côr y Flwyddyn.

Roedd rowndiau cyn-derfynol y gystadleuaeth, y rowndiau terfynol ar gyfer pedwar categori - côr plant, côr ieuenctid, côr oedolion a chôr agored - yn cael eu cynnal yn y Royal Festival Hall yn Llundain, ddydd Sul, 19 Hydref.

Roedd enillydd pob categori yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol yn y Bridgewater Hall ym Manceinion ar 7 Rhagfyr, ynghyd â dau gôr sydd wedi ennill lle 'wildcard'.

Enillodd Gôr Iau Glanaethwy y categori ar gyfer y corau plant ac enillodd Côr CF1 le fel un o'r ddau gôr 'wildcard', a hynny wedi i Northern Spirit Singers ennill ei categori - categori'r côr oedolion.

Roedd corau eraill o Gymru hefyd yn cystadlu, gyda Chôr Hŷn Glanaethwy yn cystadlu yn y categori ar gyfer corau ieuenctid ac roedd Côr Meibion Rhosllannerchrugog yn cystadlu yng nghategori'r oedolion.