Pryder am bwysau gwaith gweithwyr cymdeithasol Cymru

Sad boy Image copyright Thinkstock

Mae gan weithwyr cymdeithasol yng Nghymru ormod o lwyth gwaith all arwain at gamgymeriadau wrth geisio cefnogi oedolion a phlant bregus, yn ôl undebau.

Dywed undeb Unsain a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol fod y baich ar rai gweithwyr yn achos pryder ac yn ddwbl yr hyn byddant yn ei ddisgwyl.

Mae ffigyrau, ddaeth i law BBC Cymru drwy gais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, yn dangos bod rhai gweithwyr cymdeithasol yn gorfod delio gyda llawer mwy o achosion na gweithwyr eraill ar draws Cymru eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynnydd yn y galw a thoriadau i gyllidebau yn rhoi straen ar ofal cymdeithasol, ond bod angen canmol gweithwyr cymdeithasol am eu gwaith.

144 o achosion

Gofynnodd BBC Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru am y gweithwyr cymdeithasol oedd yn delio gyda'r nifer fwyaf o achosion, gan gynnwys achosion oedd yn cael eu cyfri fel rhai 'dan adolygiad', nad ydyn nhw angen gwaith drwy'r amser.

Roedd gan un gweithiwr cymdeithasol yng Ngheredigion 29 o achosion, tra bod un arall yng Nghonwy yn delio gyda 144.

Yn ôl Cyngor Conwy, roedd y 144 o achosion yn oedolion, a dim ond unwaith y flwyddyn oedd angen eu gwirio.

Pan ofynnodd y BBC am achosion o waith yn ymwneud â phlant, gan gynnwys achosion mwy cymhleth, roedd y niferoedd yn amrywio o 22 yng Nghasnewydd i 43 ym Merthyr Tudful a Gwynedd.

Image caption Mae'r nifer o achosion sy'n cael eu rhoi dan oruchwyliaeth pob gweithiwr cymdeithasol yn bryder yn ol Robin Moulster

Ymchwiliad cyhoeddus?

Dywedodd Robin Moulster, o Gymdeithas Prydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol, y gall y ffigyrau olygu bod angen ymchwiliad cyhoeddus.

Ychwanegodd y gall hynny "ymddangos yn or-ddramatig" ond bod angen sicrhau nad oes achosion o gam-drin difrifol yn digwydd.

"Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw bod sefyllfaoedd ond yn cael eu gwella, er enghraifft, pan mae awdurdodau lleol yn mynd i fesurau arbennig, yna mae mwy o adnoddau ac mae'r broblem yn dechrau gwella.

"Y pwynt ydi pam oes rhaid i ni aros tan fod argyfwng?

"Weithiau nifer yr achosion sydd ar fai, weithiau lefel y profiad ac arbenigedd.

"Dwi'n gwybod bod rhai awdurdodau sydd â llawer o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn delio gyda llwythi gwaith mawr dan bwysau mawr, sydd ddim yn iawn.

"Mae 'na berygl y gall pethau gael eu methu a chreu sefyllfaoedd difrifol iawn."

'Straen' ar wasanaethau

Mae pennaeth llywodraeth leol gydag undeb Unsain, Dominic Mackaskill, yn credu bod y llwyth gwaith sydd gan weithwyr cymdeithasol yn rhy uchel ac yn anghynaladwy.

"Os ydych chi mewn tîm asesu, er enghraifft, yna mi fydde chi am weld llwyth gwaith o 10 i 15 achos yn hytrach na 40 felly dwi'n meddwl bod rhai arwyddion pryderus ac mae angen i ni wneud mwy o waith yn dadansoddi'r ffigyrau."

Image caption Mae Nick Guy yn dweud bod angen amser i greu perthynas rhwng y gweithiwr a'r plant sydd angen cymorth

Dywedodd un gweithiwr cymdeithasol o Abertawe sydd â 30 mlynedd o brofiad fod plant yn "methu allan" ar gyfleoedd gan fod gan weithwyr ormod o achosion.

"Mae pob plentyn angen i weithiwr cymdeithasol fod a'r amser i fagu hyder os oes camdriniaeth yn digwydd," meddai Nick Guy.

"Rydyn ni wedi gweld o Rotheram ac esiamplau diweddar o weithwyr cymdeithasol yn cael eu beirniadu am beidio gwrando ar blant, ond mae plant angen y berthynas yna, hyder ac amser."

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn dweud bod cynnydd yn y galw a thoriadau i gyllidebau yn rhoi straen ar ofal cymdeithasol, a bydd yn parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf.

Ond ychwanegodd y llefarydd bod angen canmol gweithwyr cymdeithasol am eu gwaith.

"Mae'r ffigyrau yma ar lwyth gwaith gofal yn dangos bod gwir angen i lywodraeth ar bob lefel barhau i weithio yn agos gyda chyrff gofal cymdeithasol proffesiynol i sicrhau bod y system ofal yng Nghymru yn gallu delio â'r galw."

Straeon perthnasol