Triphwynt i'r Elyrch?

A ddylai Victor Moses fod wedi cael cic o'r smotyn yn erbyn Abertawe y penwythnos diwethaf? Image copyright Getty Images
Image caption A ddylai Victor Moses fod wedi cael cic o'r smotyn yn erbyn Abertawe y penwythnos diwethaf?

Ar ôl dechrau addawol i'r tymor dydi pethau ddim wedi mynd o blaid Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar. Dydyn nhw ddim wedi ennill yn eu pum gêm ddiwethaf. A fydd pethau'n gwella i dîm Garry Monk y penwythnos yma? Owain Llŷr sy'n edrych ymlaen at ymweliad Caerlŷr â Stadiwm Liberty ar ran BBC Cymru Fyw:

Codi hyder

Mi fyddai buddugoliaeth yn codi'r hyder yn y garfan cyn rhediad o gemau anodd. Lerpwl oddi cartref yng Nghwpan Capital One, cyn gemau yn erbyn Everton, Arsenal a Man City yn y gynghrair.

Heb unrhyw amheuaeth mi fyddai Garry Monk wedi bodloni ar fod yn yr 8fed safle yn y gynghrair ar ôl 8 gêm. Ond dwi'n siŵr ei fod o hefyd yn siomedig efo'r ffordd maen nhw wedi ildio pwyntiau dros yr wythnosau diwethaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae dyfarnwyr wedi rhoi cur pen i Garry Monk yn ddiweddar

Methu manteisio

Mae pawb yn ymwybodol nad oedd Monk yn hapus efo perfformiad y dyfarnwr Michael Oliver ar ôl i'r Elyrch golli yn erbyn Stoke y penwythnos diwethaf. Ond y gwir plaen amdani ydi y dylen nhw fod wedi sgorio mwy o goliau yn yr hanner cyntaf.

Fe ddylai Ki Sung-Yeung a Gylfi Sigurdsson fod wedi gwneud yn well o flaen y gôl. Petai'r ddau wedi manteisio ar eu cyfleoedd i sgorio yna efallai fyddai'r penderfyniad gan Oliver i roi cic o'r smotyn i Victor Moses ddim wedi bod mor dyngedfennol.

Roedd y gêm gyfartal yn erbyn Newcastle hefyd yn enghraifft wych o'r Elyrch yn methu cyfleoedd da i sgorio. Fe ddylen nhw fod wedi bod o leiaf ddwy gôl ar y blaen cyn i Papiss Cissé sgorio ei ail o'r prynhawn i'w gwneud hi'n 2-2.

Image copyright Getty Images
Image caption Wilfried Bony yn rhoi Abertawe ar y blaen yn Stoke

Newidiadau?

Yn bersonol mi fuaswn i yn hoffi gweld Monk yn gwneud newidiadau i'r tîm ar gyfer y gêm. Mae'r asgellwyr Nathan Dyer a Wayne Routledge wedi dechrau pob gêm gynghrair y tymor yma.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i roi cyfle i Jefferson Montero ddechrau gêm. Mae o wedi creu argraff bob tro mae o wedi dod ymlaen fel eilydd y tymor hwn. Mae o'n hynod o gyflym ac mae ei wasanaeth mewn i'r cwrt cosbi bob tro o'r safon uchaf.

Efallai ei bod hi'n amser hefyd i arbrofi efo Wilfred Bony a Bafetimbi Gomis yn y llinell flaen. Tydi'r ddau dal ddim wedi dechrau gêm efo'i gilydd y tymor yma. Mi fysa'r bartneriaeth yna yn cadw amddiffynwyr Caerlŷr ar flaenau eu traed trwy gydol y gêm.

Mae angen buddugoliaeth ar Abertawe - a dwi'n ffyddiog y bydd y cefnogwyr yn dathlu ar ddiwedd y gêm.

Image caption A fydd Gomis yn cael rhagor o gyfle i ddangos ei allu p'nawn Sadwrn?