Cameron a Miliband yn gwrthdaro dros Iechyd yng Nghymru

Ed Miliband
Image caption Yn ôl Ed Miliband, roedd Mr Cameron yn son am Gymru oherwydd ei ofnau am ddiwygiadau "trychinebus" yn Lloegr

Mae'r Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd Llafur, Ed Miliband wedi herio ei gilydd am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl Mr Cameron fe ddylid cynnal ymchwiliad i gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a hawliodd bod gwasanaethau yn methu oherwydd y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.

Mewn ymateb fe ddywedodd Mr Miliband fod Mr Cameron yn son am Gymru drwy'r amser gan ei fod yn "rhedeg yn ofnus" rhag amddiffyn ei newidiadau "trychinebus" i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Daw'r ddadl yn dilyn ffraeo mawr rhwng Mr Hunt a gweinidog iechyd Cymru, Mark Drakeford, ynglŷn â chyflwr y gwasanaeth yng Nghymru.

Mr Miliband wedi ei 'ddychryn'

Perfformiad diweddar y GIG oedd prif bwnc sesiynau'r Prif Weinidog, wrth i Mr Miliband a Mr Cameron anghytuno yn chwyrn am gyflwr y gwasanaeth iechyd.

Tra roedd Mr Cameron yn feirniadol o'r gwasanaethau yng Nghymru, fe geisiodd Mr Miliband bwysleisio gwendidau'r sefyllfa yn Lloegr.

Yn ôl Mr Cameron roedd meddygon a nyrsys yng Nghymru yn gweithio yn galed, ond roedd gweinidogion yng Nghaerdydd ar fai.

Hawliodd y Prif Weinidog fod Mr Milband wedi "dychryn yn llwyr gan fethiannau iechyd Llafur yng Nghymru". Galwodd am ymchwiliad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar y sefyllfa yng Nghymru

Mewn ymateb fe ddywedodd Mr Miliband y dylai'r Prif Weinidog "ganolbwyntio ar achub y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn hytrach na phardduo'r GIG yng Nghymru".

Roedd Llafur eisoes wedi dweud eu bod yn barod i gael ymchwiliad gan yr OECD, ond na fyddai'r blaid yn fodlon gadael i'r Gweinidog Iechyd yn Lloegr, Jeremy Hunt, chwarae "gemau gwleidyddol" ynglŷn ag amseru, a pha wybodaeth fyddai'n cael ei roi i'r ymchwiliad.

Straeon perthnasol