Carwyn Jones: 'Di-Gymraeg yn cael effaith ar yr iaith'

Carwyn Jones Image copyright Getty Images

Mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef bod pobl di-Gymraeg sy'n symud i gadarnleoedd y Gymraeg yn cael effaith ar yr iaith.

Roedd Carwyn Jones yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cymunedau'r Cynulliad, oedd yn trafod effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar yr arian sydd ar gael i'r iaith Gymraeg.

Wrth ymateb i gwestiwn gan AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, dywedodd Mr Jones bod yr arian sydd ar gael i hyrwyddo'r Gymraeg wedi cael ei dorri yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

Ond dywedodd y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi ail-flaenoriaethu gwario ar yr iaith yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad yn 2011.

Roedd y canlyniadau'n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011.

Fe ddywedodd Mr Jones fod "yr iaith wedi cael ei chefnogi'n fawr iawn" yn y degawd lle bu cwymp yn nifer y siaradwyr.

Ychwanegodd nad oes"modd osgoi" fod mewnlifiad yn effeithio ar y Gymraeg.

"Y ffordd i ddelio gyda hwnna yw sicrhau bod teuluoedd a phlant yn enwedig, yn cael eu trochi yn yr iaith, fel eu bod nhw'n gweld fod bod yn ddwyieithog yn rhywbeth hollol naturiol mewn cymunede' dwyieithog," meddai.

Dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith: "Da gweld Carwyn Jones yn cydnabod yr effaith mae'r drefn gynllunio yn ei gael ar yr iaith.

Mae'n hanfodol bod modd gwrthod neu dderbyn cynlluniau arfaethedig ar sail eu heffaith ar yr iaith.

Mae angen sicrhau hefyd bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion lleol, ac nid targedau tai cenedlaethol. "