Gŵyl ffilm newydd yng ngogledd Cymru

Gwyl Ffilm Mon

Bydd Gŵyl Ffilm newydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ar Ynys Môn dros y penwythnos.

Dyma'r tro cyntaf i ŵyl o'r fath gael ei chynnal ym Môn.

Dechreuodd yr ŵyl nos Wener gyda chyngerdd yn cynnwys yr artistiaid Siddi ac 'Orient Machine'.

Dydd Sadwrn, fydd y diwrnod yn dechrau yn sinema Caergybi am 10:30 , gan ddangos ffilmiau "Môn made", sef casgliad o ffilmiau byrion sydd wedi eu ffilmio a'u cynhyrchu ar ffonau symudol.

Image caption Bydd Canolfan Ucheldre yn un o'r lleoliadau ar gyfer yr ŵyl.

Yn y prynhawn, fydd yr ŵyl yn symud i ganolfan yr Ucheldre, lle fydd nifer o ffilmiau o gategorïau gwahanol yn cael eu dangos.

Bydd modd gweld ffilmiau wedi eu hanimeiddio, ffuglen, fideos cerddoriaeth a rhaglenni dogfen.

Gyda'r nos bydd parti yng nghanolfan Ucheldre gyda'r DJ Niel Antares.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Angharad Parry ei bod yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad, am mae'n freuddwyd cynnal yr ŵyl.

"Mae ffilmiau wedi bod yn rhan fawr of fy mywyd gan fy mod yn gweithio fel goruchwyliwr sgriptiau ac roeddwn eisiau rhannu fy angerdd â rhoi rhywbeth yn ôl i Fon," meddai.

Straeon perthnasol