Ail gyfle i Wrecsam yng nghwpan FA Lloegr

Macclesfield 1-1 Wrecsam

Dim ond dros glawdd Offa oedd yn rhaid i Wrecsam deithio heno ar gyfer eu gem ragbrofol pedwaredd rownd cwpan FA Lloegr.

Llwyddodd ergyd 25-llath gan Connor Jennings i sicrhau ail-gyfle i Wrecsam yn erbyn Macclesfield.

Cyffyrddiad gan Waide Fairhurst rhoddodd y 'Silkmen' ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn Jennings unioni'r sgôr ar ôl 66 munud.

Daeth Macclesfield yn agos i enillydd ym Moss Rose pan darodd peniad gan Paul Lewis y postyn funudau'n unig cyn y chwiban olaf.

Bydd y ddau dîm yn cwrdd ar y Cae Ras nos Fawrth i ail-chwarae'r gêm, a bydd yr enillydd yn cael mynd ymlaen i chwarae ym mhedwaredd rownd cwpan FA Lloegr.