Plaid Cymru: Galw am 'ail-gydbwyso'

Leanne Wood
Image caption Bydd Ms Wood yn galw am gyfres sylweddol o bwerau i gael eu datganoli

Mae cyfle arbennig i "ail-gydbwyso grym a'r economi" yn y DU, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ar ddiwrnod agoriadol cynhadledd flynyddol ei phlaid ddydd Gwener.

Gyda chanlyniad refferendwm yr Alban ar annibyniaeth i'w drafod ac etholiadau San Steffan ar y gorwel ym mis Mai, mae Plaid Cymru yn ystyried y gynhadledd ddeuddydd ym Mhafiliwn Llangollen yn un bwysig.

Dywedodd Ms Wood bod angen manteisio ar "ddaeargryn democrataidd ddigynsail yr Alban".

Mae hi hefyd o'r farn fod posibilrwydd cryf y bydd senedd grog ar ôl yr etholiad cyffredinol, a fyddai'n cynnig cyfle, meddai, i gydweithio gyda phlaid yr SNP a'r Blaid Werdd i gynyddu eu dylanwad.

Datgelodd Leanne Wood nifer o bolisiau, gan gynnwys addo creu 50,000 o swyddi newydd "trwy roi mwy o gontractau sector cyhoeddus i fusnesau Cymreig" a sicrhau y byddai 70,000 yn llai o fusnesau bach yn gorfod talu ardrethi busnes.

Ymrwymodd y blaid i roi "cyflog byw i bawb erbyn 2020", a fyddai'n golygu codiad cyflog i 250,000 o bobl, meddai.

Datganoli

Mae Cynhadledd Plaid Cymru yn cael ei dangos yn fyw ar Cymrufyw.

Gyda datganoli yn uchel ar yr agenda gwleidyddol ar draws y DU, dywedodd Ms Wood ei bod am "ddod â'n llywodraeth gartref i Gymru".

Y nod, meddai, yw sicrhau "ein bod yn dal y pwerau i o leiaf ein rhoi ar yr un lefel â'n cymdogion" yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd "petai pob dyn, menyw a phlentyn yng Nghymru yn derbyn yr un cyllid y pen â phobl yr Alban - byddai ein hysgolion a'n gwasanaethau lleol yn cael 1.2 biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol.  

"Pam ddylen ni gael ein trin yn wahanol? Mae gennym setliad datganoli trydydd-radd eisoes - pam dylen ni fod yn fodlon gyda threfniant ariannol eilradd?"

Wrth nodi bod Mesur newydd yr Alban yn debyg o fynd drwy'r Senedd tua'r un pryd â Mesur Cymru, mae'r arweinydd o'r farn y byddai'n "wrthun ac annerbyniol i ASau bleidleisio dros bwerau sylweddol newydd i'r Alban a phleidleisio yr un pryd dros fesur eilradd i Gymru."

Galwodd Ms Wood am gyfres sylweddol o bwerau i gael eu datganoli, gan gynnwys adnoddau naturiol, cyfiawnder troseddol, plismona a "phwerau ariannol mawr".

'Pethau da'

Fore Gwener, fe wnaeth cynghorydd economaidd y blaid, Eurfyl ap Gwilym alw am "gyflymu" yr amserlen ar ddatganoli pellach.

Wrth ganmol yr Ysgrifennydd Gwladol newydd Stephen Crabb am ddweud "pethau da" ar ddatganoli, dywedodd Mr ap Gwilym ei fod yn "optimistaidd iawn" am y dyfodol.

Mae'n amser, meddai, i Gymru fynnu "gyfartaledd lwyr gyda'r Alban" yn nhermau'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan y Trysorlys.

Mae Leanne Wood o'r farn bod angen ail-lunio Mesur Cymru "o'r brig i'r bôn", fel ei bod wedyn yn "fesur cydbwyso sy'n sicrhau y bydd y pwerau a gynigir i'r Alban yn eu Mesur newydd hefyd yn cael eu rhoi i Gymru"

Mae'n dweud y dylai'r holl bwerau newydd fod ar gael ar gyfer y Pumed Cynulliad yn 2016 neu yn ystod tymor y Cynulliad hwnnw.

"Os yw ein taith ddatganoli wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dysgu fod newid tameidiog fesul dipyn yn ein setliad yn arwain at ganlyniadau anfoddhaol i bobl Cymru".

Fe fydd y blaid yn parhau i alw am "gydraddoldeb economaidd" trwy ddiwygio'r ffordd mae cyllid y Trysorlys yn cael ei ddosbarthu i Gymru.

Yn 2009, fe wnaeth comisiwn annibynnol Holtham ddweud bod Fformiwla Barnett yn golygu bod Cymru yn colli dros £300m y flwyddyn.

'Anghyfartal'

Brynhawn Gwener, defnyddiodd Jonathan Edwards AS ei araith i'r Gynhadledd i fynegi ei farn am "anghyfartaledd ymysg cenhedloedd y DG, a sut mae'r cyfoethog wedi dod yn gyfoethocach a'r tlawd yn dlotach yn sgil polisïau Llywodraethau olynol y DG".

Dywedodd Mr Edwards: "Heb os, y Deyrnas Gyfunol - neu'r Deyrnas Anghyfunol fel y dylid ei hail-enwi - yw gwladwriaeth fwyaf anghyfartal yr Undeb Ewropeaidd.

"Yr anghyfartaledd hwn oedd un o brif ysgogiadau'r mudiad llawr gwlad ddaeth yn agos iawn i sicrhau annibyniaeth i'r Alban."

Gyda chysgod refferendwm yr Alban dros y gynhadledd, nid syndod mai "goblygiadau a gwersi'r canlyniad" oedd y pwnc trafod yng nghinio'r gynhadledd nos Wener, gyda'r siaradwr gwadd yr Athro John Curtice o Brifysgol Strathclyde , darlledwr cyson ar raglenni etholiad y BBC.

Fe fydd Leanne Wood yn gobeithio am fwy o undod yn y gynhadledd nag a gafwyd yn y gynhadledd wanwyn yng Nghaerdydd, pan wnaeth y cyn arweinydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, gorddi'r dyfroedd trwy ymateb i'r honiad a wnaeth yr arweinydd presennol fod pleidlais i UKIP "yn bleidlais yn erbyn Cymru".

Daeth Plaid Cymru yn bedwerydd yn etholiadau Ewrop ym mis Mai, gyda 15.6% o'r pleidleisiau.

Straeon perthnasol