Budd-dâl anabledd: Galw am bwyllo

Person anabl Image copyright Getty Images

Mae elusen o Gymru yn galw am beidio cyflwyno budd-daliadau newydd i bobl sâl neu anabl tan i'r oedi wrth brosesu ceisiadau gael ei ddatrys.

Gydag adroddiadau bod rhai sy'n hawlio yn gorfod disgwyl 10-11 mis am eu taliad cyntaf, mae Anabledd Cymru'n poeni bod oedi wrth roi Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) yn achosi caledi ariannol ac emosiynol.

Fe ddywed llywodraeth y DU eu bod yn benderfynol o gwtogi amseroedd aros i'r asesiadau, ac na fydd rhaid i neb aros yn fwy na 16 wythnos am asesiad erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae ystadegau mwyaf diweddar y llywodraeth yn dangos bod 530,000 o geisiadau PIP wedi eu gwneud ers i'r budd-dal gael ei gyflwyno y llynedd, a bod tua 320,000 - rhyw 60% - heb gael eu penderfynu eto, ac mae'r Adran Waith a Phensiynau wedi cydnabod bod peth o'r oedi yn annerbyniol.

'Trafferthion ariannol difrifol'

Ond mae'r corff sy'n cynrychioli Cyngor Ar Bopeth wedi galw ar y llywodraeth i beidio ymestyn y cynllun PIP i'r cam nesaf tan i'r holl geisiadau gael eu penderfynu, ac mae Paul Swann o Anabledd Cymru yn cytuno. Dywedodd:

"Mae oedi o 16 wythnos hyd yn oed yn annerbyniol. I bobl sydd eisoes yn wynebu'r costau ychwanegol o fod yn anabl orfod disgwyl cymaint â hynny yn llwytho straen arnyn nhw, yn gwaethygu eu hiechyd ac yn creu trafferthion ariannol difrifol iddyn nhw heb fod bai arnyn nhw o gwbl."

Yng Nghymru, cwmni Capita gafodd y cytundeb i wneud yr asesiadau PIP ar ran y llywodraeth yn San Steffan, ac mae cyfarwyddwr asesu'r corff, Dr Stephen Duckworth, yn cyfadde' eu bod dan y don yn y dyddiau cynnar ond eu bod bellach ar y ffordd i gyrraedd targedau'r llywodraeth.

"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi dyblu'r nifer o staff meddygol proffesiynol sydd eu hangen, gan symud tuag at 600 ar draws Cymru a chanolbarth Lloegr," meddai.

"Rydym yn gosod targedau mewnol ein hunain er mwyn ceisio mynd ymhellach na dyheadau'r Adran Waith a Phensiynau."

Gyda'r buddsoddiad yna, mae Capita yn credu nad oes angen oedi cyn symud ymlaen i'r cam nesaf, a does dim arwydd y bydd llywodraeth San Steffan yn gwrando ar yr alwad i oedi.

Bydd mwy o fanylion ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales am 12:30 ar ddydd Sul, 26 Hydref.

Straeon perthnasol