Cofeb er cof am dros 1,100 o filwyr o Gymru

Cofeb
Image caption Cysegru'r gofeb yn Zanvoorde

Mae cofeb yn wedi cael ei chysegru dydd Sul i gannoedd o filwyr y Ffiwsilwyr Cymreig a fu farw yn un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y Bataliwn 1af ei chwalu yn llwyr ar ôl 20 diwrnod o frwydro caled yn Hydref 1914.

Bu farw dros 1,100 o filwyr yn yr ardal o amgylch Ieper, ac mae teuluoedd y dynion wedi dod i wlad Belg er mwyn nodi 100 mlynedd ers y digwyddiad.

Bydd y gofeb yn cael ei dadorchuddio gerbron pentre' Zandvoorde ddydd Sul.

Hefyd bydd seremoniau yn cael eu cynnal yn Gheluvelt i gofio dynion y South Wales Borderers a'r Household Cavalry gafodd eu colli.

Fe wnaeth 1,100 o filwyr y Ffiwsilwyr Cymreig gerdded 120 er mwyn cyrraedd maes y gad yn Ieper, y nod oedd gwthio'r Almaenwyr allan o wlad Belg.

Ymladd

Ond roedd maint a chryfder y gelyn yn fwy na'r disgwyl, ac ar ôl dau ddiwrnod o ymladd dim ond 200 o'r Ffiwsilwyr oedd ar ôl.

Mae brwydr gyntaf Ieper yn cael ei chofio am y frwydr wnaeth newid dull yr ymladd, a dechrau cyfnod rhyfel y ffosydd.

Wedi i fwy o filwyr wrthgefn chwyddo rhengoedd y bataliwn i 400, bu'n rhaid i'r milwyr ddioddef pythefnos o danio wrth law gynnau mawr yr Almaenwyr.

Ar 30 Hydref 1914, cafodd mwy na 275 eu llad a 50 arall eu hanafu neu eu cymryd yn garcharorion.

Y diwrnod canlynol dim ond 86 o ddynion oedd ar ôl. Fe wnaeth y brwydro barhau am rai wythnosau wedyn, tra bod y bataliwn yn cael ei ailffurfio.

Image copyright Graham Knight
Image caption Ffiwsilwyr yn hyfforddi cyn mynd i ryfel
Image copyright Cadogan
Image caption Fe wnaeth Henry Cadogan ysgrifennu llyfr am ei daid

Un o'r rhai fyd dyn cael ei gofio dydd Sul yw'r cyrnol is-gapten "Hal" Osbert Samuel Cadogan, pennaeth y Bataliwn.

Bu o farw ar faes y gad.

Mae ei ŵyr, Cyrnol Henry Cadogan, o Wrecsam wedi ysgrifennu llyfr am ei daid.

"Cafodd mwy o daflegrau eu tanio yn yr wythnosau hynny nag yn holl gyfnod Rhyfel Y Boer, " meddai.

"Byddai'r dynion heb weld ei debyg. Ond roedd o'n bwysig, oherwydd fe wnaethant atal yr Almaenwyr, o drwch blewyn, rhag cyrraedd yr arfordir - a byddai hynny wedi golygu colli'r rhyfel."

Image caption Milwyr o Gymru yn gorymdeithio drwy Zanvoorde
Image caption Cofeb i filwyr y South Wales Borderers yn Gheluvelt