Plaid Cymru yn galw am 'sicrhau triniaeth gyfartal'

Dafydd Wigley
Image caption Dafydd Wigley: 'Sicrhau triniaeth gyfartal'

Cafodd cyfres o "hanfodion" eu hamlinellu ar ddiwrnod olaf cynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen ddydd Sadwrn er mwyn "sicrhau triniaeth gyfartal gyda'r Alban".

Yr Arglwydd Dafydd Wigley, sy'n cydlynu eu hymgyrch ar gyfer etholiad cyffredinol 2015, a ddadleuodd dros wneud Cymru yn gwbl gydradd gyda'r Alban, yn "wleidyddol ac yn ariannol."

Fe wnaeth Arglwydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus y blaid ers 2005, ddweud os nad oes modd cael annibyniaeth ar unwaith yna bydd angen anelu am fwy na datganoli, sef partneriaeth newydd rhwng cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol.

Cyhuddodd lywodraethau olynol yn San Steffan o "dangyllido yn fwriadol wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru".

Sefydlu partneriaeth

Dywedodd fod Cymru yn mynnu cydraddoldeb gyda'r Alban mewn unrhyw drafodaeth yn y dyfodol ynglŷn â chytundeb cyfansoddiadol.

Galwodd am gydraddoldeb "o ran pŵer, yn ogystal â chydraddoldeb o ran parch, a chydraddoldeb o ran adnoddau ariannol".

Ei farn, meddai, "yw pan ddaw annibyniaeth i'r Alban, bydd Cymru hefyd hynny gymaint yn nes at gael byw fel cenedl rydd o fewn Ewrop unedig."

Yn y tymor byr, serch hynny, fe wnaeth e gydnabod pe bai'r SNP yn ennill nifer sylweddol o seddi yn yr etholiad cyffredinol, "bydd sialens i Blaid Cymru i sicrhau nad ydi anghenion Cymru yn cael eu gwthio oddi ar yr agenda gwleidyddol."

Herio am seddi

Dafydd Wigley wnaeth arwain ymgyrch y blaid ar gyfer etholiadau Cynulliad 1999 pan gawsant 28.4% o'r bleidlais.

Dywedodd wrth y gynhadledd, "petaem yn gallu ail-greu'r momentwm a oedd gennym yn etholiad cynta'r Cynulliad, ym 1999, pan gawsom 30% o'r bleidlais, gallem ennill seddi ym Mai i orfodi pwy bynnag sy'n llywodraethu yn San Steffan i gymryd sylw o anghenion Cymru".

Dywedodd bod digwyddiadau yn yr Alban yn golygu y bydd yr etholiad o bwys eithriadol.

Mae'r blaid yn gobeithio cadw eu tri AS presennol a herio am seddi Ynys Môn, Ceredigion a Llanelli.

Cododd y cynadleddwyr i'w traed wrth glywed geiriau'r Arglwydd Wigley yn cloi'r gynhadledd: "Mae'r Albanwyr wedi dangos y ffordd. Gallwn ni hefyd ymdynghedu i gerdded gyda hwy, ochr yn ochr, i gerdded tuag at ein rhyddid: "Gyda'n gilydd fe safwn ni!"

Araith olaf

Image caption Elfyn Llwyd: "popeth yn y fantol"

Ddydd Sadwrn, yn ei araith olaf i'r gynhadledd flynyddol fel aelod seneddol, dywedodd Elfyn Llwyd fod "popeth yn y fantol" wedi refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Honnodd fod "pobl rŵan yn gytûn nad ydi Mesur Cymru yn ddigon pellgyrhaeddol o'r hanner", gan ychwanegu, "rwy'n deall fod posibilrwydd y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi deddfwriaeth newydd yn fuan yn y flwyddyn newydd fydd yn edrych ar Gymru yn y cyd-destun ôl-refferendwm".

Manteisiodd ar y cyfle i edrych yn ôl ar beth mae grŵp Plaid Cymru wedi ei gyflawni yn San Steffan ers iddo gael ei ethol am y tro cyntaf yn 1992, gan gynnwys eu cyfraniadau yn ymwneud â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

Safonau Addysg

Ond mynegodd y farn mai "fy nghyrhaeddiad mwyaf hyd yn hyn yw sicrhau yr Ymchwiliad Seneddol Annibynnol i Ddiwygio'r Gyfraith Stelcian - ymchwiliad y cadeiriais ac a arweiniodd at ddwy drosedd stelcian newydd a ddaeth i rym fis Tachwedd 2012".

Ei obaith yw y bydd modd "efelychu'r llwyddiant hyn drwy newid y gyfraith ar drais yn y cartref yn hwyrach eleni".

Yn gynharach, wrth gyfrannu at drafodaeth ar anfantais a chyrhaeddiad addysgol, dywedodd Simon Thomas AC pe byddai Plaid Cymru mewn grym ar ôl etholiad 2016 y Cynulliad y byddai angen iddynt ganolbwyntio ar wella safonau addysg.

"Y peth mwyaf sy'n llusgo ein heconomi i lawr yw ein bod wedi gadael cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc i lawr o ran safonau mewn addysg, o safbwynt llythrennedd a rhifedd, ond hefyd o ran eu gallu i gyflawni eu potensial," meddai.

Straeon perthnasol