Iechyd: 'Dim i'w guddio'

Offer meddygol Image copyright Science Photo Library

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud nad oes gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru "unrhyw beth i'w guddio" wrth i'r ffrae wleidyddol am record Llywodraeth Lafur Cymru rygnu yn ei flaen.

Dywedodd Mark Drakeford wrth raglen Sunday Politics y BBC fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei fonitro a'i archwilio yn fwy nag unrhyw wasanaeth iechyd arall yn y DU.

Yn ôl Mr Drakeford fe wnaeth archwiliad dirybudd diweddar gan swyddogion iechyd ddod i'r casgliad fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "ofalus a thrugarog"

Dywedodd fod gan Gymru dargedau mwy uchelgeisiol na Lloegr wrth drafod triniaeth canser, a bod Cymru yn llwyddo i berfformio yn well na Lloegr yn y maes yma.

Ychwanegodd fod y galw am wasanaethau ambiwlansys yn cynyddu drwy'r amser ond dywedodd ei fod yn derbyn nad oedd Cymru yn perfformio yn ddigon da, a bod yna gynlluniau wedi eu mabwysiadau er mwyn gwella hynny.

Image caption Mark Drakeford: "Dim i'w guddio"

O ran y galw cynyddol am wasanaethau dywedodd "ein bod yn yr un sefyllfa a'r gwasanaeth iechyd ledled y DU. "

Dywedodd tra bod Lloegr wedi torri nôl yn llym ar wasanaethau cymdeithasol roedd Cymru wedi diogelu gwariant yn y maes hwnnw "er mwyn sicrhau bod yna ofal am bobl unwaith iddyn nhw adael yr ysbyty."

'Codi braw'

Yn y cyfamser, mae cyn lywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud fod "cecru gwleidyddol" am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "codi braw" ar gleifion.

Dywedodd y Fonesig June Clark, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, nad yw'r cecru yn helpu morâl staff sy'n gweithio mor galed - a hynny yn Lloegr a Chymru.

Roedd hi'n siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

Ychwanegodd fod y gwasanaeth iechyd yn y ddwy wlad yn wynebu problemau.

Daw ei sylwadau yn dilyn wythnos lle welodd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael sylw manwl yn nhudalenau'r Daily Mail, ac ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Ar yr un rhaglen dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio amddiffyn gwariant ar iechyd "wedi gadael y gwasanaeth iechyd gyda rhestrau aros hirach."

Ychwanegodd fod hyn hefyd yn golygu mynediad mwy cyfyng i driniaethau.

Ond yn ôl Owen Smith, llefarydd Llafur ar Gymru, roedd y blaid Lafur yn falch o'i record o amddiffyn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Cyhuddodd y Torïaid o ymosod ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru er mwyn ennill "pwyntiau gwleidyddol."

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, hefyd yn feirniadol o'r Torïaid ac yn eu cyhuddo o chwarae gem wleidyddol.

"Mae'n anfaddeuol bod y Torïaid yn fodlon codi braw ar gleifion ac effeithio morâl staff."

Straeon perthnasol