Llifogydd: 1,300 o dai dan fygythiad

Llifogydd yn Y Rhyl Image copyright Reuters
Image caption Mae sawl ardal yng Nghymru wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar, gan gynnwys Y Rhyl ym mis Rhagfyr y llynedd.

Gall gwerth tai miloedd o bobl sy'n byw ger yr arfordir ddisgyn wrth i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau i roi'r gorau i'w hamddiffyn rhag y môr yn y dyfodol.

Mae pedwar Cynllun Rheoli Traethlin wedi eu llunio ar gyfer Cymru, gan ddangos sut y bydd cymunedau ger yr arfordir yn cael eu heffeithio yn y dyfodol gan gynnydd yn lefelau dŵr y môr.

Bydd amddiffynfeydd morol ar gyfer y mwyafrif o lefydd yn parhau i gael eu darparu, ond mae rhaglen y BBC, Week In Week Out, wedi darganfod bod 48 o ardaloedd ble mae cyngor wedi'i roi i ddod â'r amddiffynfeydd i ben, a chilio rhag y môr.

Yn yr ardaloedd yma, mae'r cynlluniau'n nodi bod tai dan fygythiad, a bod perygl y byddan nhw'n cael eu colli i'r môr o ganlyniad i'r penderfyniad.

Mae'r cynlluniau'n rhestru 1,300 o dai all gael eu heffeithio, ond gall y ffigwr fod yn llawer mwy.

Efallai na fydd perchnogion y tai yn ymwybodol o'r bygythiad, a'r effaith ar werth eu cartrefi.

'Effaith trychinebus'

Un ardal gaiff ei heffeithio fydd Drenewydd yn Notais, ger Porthcawl. Bydd y cynlluniau yn gadael i natur gymryd ei chwrs yma mewn 15 mlynedd, a ni fydd morglawdd newydd yn cael ei adeiladu yn lle'r un presennol, pan fydd hwnnw'n methu.

Mae Huw Gosling yn byw yn un o'r 30 o dai ger y môr, sydd wedi eu rhestru fel bod dan fygythiad. Nid oedd yn gwybod unrhyw beth am y cynlluniau cyn siarad gyda Week In Week Out - ac nid oes ganddo unrhyw amheuaeth am y goblygiadau.

Dywedodd: "Mae hyn yn peri pryder oherwydd byddai effaith hynny ar ein cartrefi yn eithaf trychinebus. Mae hi'n debyg mai'r cam nesaf fyddai bod hi'n amhosibl gwerthu'r tai ac y byddan nhw, yn y pendraw, yn dymchwel i'r môr."

Roedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn y cynllun traethlin ddwy flynedd yn ôl. Dywedodd y cyngor wrth Week In Week Out eu bod nhw wedi dilyn y canllawiau ar gyfer rhoi gwybod i bobl am y cynlluniau, ac y byddan nhw'n cydweithio gyda'r trigolion ar amddiffynfeydd llifogydd a newidiadau i'r arfordir.

Ond mae nifer o drigolion Drenewydd yn Notais wedi dweud nad oedden nhw'n gwybod unrhyw beth am y cynllun nac ychwaith yn gwybod bod eu cartrefi dan fygythiad tan i Week In Week Out gysylltu â nhw.

Image caption Cafodd cannoedd o bobl eu heffeithio gan lifogydd yn Llanelwy yn 2012.

Adleoli 420 o gartrefi

Mae amcangyfrifon gwahanol ar gyfer pryd y bydd cartrefi yn cael eu colli i'r môr ar gyfer pob un o'r 48 ardal. A thra bod yr amcangyfrifon wedi eu seilio ar wybodaeth wyddonol ynglŷn â digwyddiadau yn y dyfodol, mae hi'n debygol y bydd yr effaith ar berchnogion y tai i'w deimlo ar unwaith.

Mae Fairbourne yng Ngwynedd eisoes wedi profi cwymp sylweddol ym mhrisiau tai ers i Week In Week Out ddatgelu mewn rhaglen yn gynharach eleni bod y Cynllun Rheoli Traethlin yn awgrymu adleoli 420 o gartrefi yn y pentref.

Dywedodd y cyngor eu bod yn gallu cynnal yr amddiffynfeydd am 40 mlynedd, ond mae Week In Week Out ar ddeall nad yw pobl sydd eisiau prynu tŷ yn y pentref yn gallu derbyn morgais oherwydd bod y cwmniau eisiau sicrwydd am 60 mlynedd.

Mae'r Syrfëwr Siartredig, Philip Wilbourne, wedi cynghori Llywodraeth y DU ar effaith unrhyw lifogydd ar eiddo diriaethol. Dywedodd y byddai unrhyw gynllun sy'n nodi na fydd cartrefi ger yr arfordir yn cael eu hamddiffyn yn y dyfodol yn sicr o gael effaith.

Dywedodd: "Rydych chi'n dweud na fyddan nhw yno am byth, eu bod nhw am fod yno am gyfnod, amhenodol, tan i'r môr eu llyncu, neu nes iddyn nhw fod yn anaddas i bobl fyw ynddyn nhw. Ond tydi llawer o berchnogion ddim yn gwybod bod hyn yn effeithio ar eu cartrefi ac y bydd yn effeithio ar eu gallu i werthu eu cartrefi, ac am ba bris."

£300 miliwn

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd, Carl Sargeant, wedi cymeradwyo un Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer de Cymru. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £300 miliwn ar amddiffynfeydd llifogydd ers 2011, ond y byddai'n anodd cyfiawnhau rhai ardaloedd yn y dyfodol. Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r bobl sy'n cael eu heffeithio'n derbyn iawndal, dywedodd y byddai'n rhaid archwilio pob achos yn unigol.

Dywedodd: "Efallai y byddai'n ddewis rhatach i gefnogi cymuned i symud ymlaen. Nid oes gen i'r atebion i hynny eto - mae'n fater cymhleth a thechnegol iawn - ond beth rydw i'n ddweud ydi fy mod i wedi ymroi i sicrhau ein bod ni'n trafod gyda chymunedau lleol, awdurdodau lleol a bod gan y llywodraeth gyfrifoldebau fel rhan o'r broses hon."

Bydd rhaglen 'Week in Week Out - Seaside Retreat' yn cael ei darlledu am 10:35yh nos Fawrth, 28 Hydref ar BBC1 Wales.

Straeon perthnasol