Adroddiad blynyddol ar ofal diwedd oes

Person oedrannus
Image caption Mae 75% o bobl yn derbyn rhyw fath o ofal lliniarol ar ddiwedd eu bywydau.

Mae adroddiad blynyddol ynglŷn â gofal diwedd oes yn dangos bod gan gleifion a'u teuluoedd farn bositif ynglŷn â gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru.

Roedd sgôr cyfartalog yr adborth ynglŷn â gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yn 9.56 allan o 10, a hynny yn ôl canlyniadau arolwg iWantGreatCare.

Mae'r canlyniadau'n rhan o'r adroddiad blynyddol ynglŷn â gofal diwedd oes, yr adroddiad cyntaf o'r fath i ddarparu trosolwg manwl o'r gwasanaethau gofal lliniarol sydd ar gael yng Nghymru.

£6.4 miliwn

Mae 32,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, a nifer fawr ohonyn nhw yn dilyn afiechyd cronig, megis clefyd y galon, canser, strôc, clefyd resbiradol cronig, clefyd niwrolegol neu ddementia.

Mae 75% o bobl yn derbyn rhyw fath o ofal lliniarol ar ddiwedd eu bywydau.

Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal diwedd oes a gwasanaethau gofal lliniarol yw bod pobl yng Nghymru gydag agwedd iach a realistig tuag at farwolaeth, gan gynllunio'n addas ar gyfer y digwyddiad. Yn ogystal dylai pobl sy'n marw yng Nghymru dderbyn gwasanaeth gofal o'r safon uchaf ble bynnag y maen nhw'n byw a marw, a beth bynnag eu cyflwr meddygol.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gofal diwedd oes wedi gwella'n sylweddol ers 2008 pan fuddsoddodd y llywodraeth mewn gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol, gyda mwy na £6.4 miliwn yn cael ei roi i ysbytai a hosbisau yng Nghymru yn 2012-13.

'Gwahaniaeth enfawr'

Yn ôl yr adroddiad roedd 80% o gyfeiriadau am ofal lliniarol arbenigol brys wedi eu hasesu o fewn yr amser targed, ac roedd 94% o ymatebion i'r arolwg iWantGreatCare ynglŷn â phrofiad cleifion o ofal lliniarol arbenigol yn bositif.

Wrth siarad yn hosbis Tŷ Gobaith yng Nghonwy, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:

"Mae'r adborth gan gleifion a'u teuluoedd ynglŷn â gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru wedi dangos bod y gwasanaethau yma'n gwneud gwahaniaeth enfawr i safon bywydau pobl.

"Dylai pobl dderbyn gofal o'r safon uchaf os ydyn nhw'n byw neu'n dewis marw, beth bynnag fo'r afiechyd neu anabledd sy'n eu heffeithio. Mae cyfraniad yr hosbisau yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu gofal ardderchog.

"Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud ar draws Cymru, gan nodi meysydd ar gyfer rhagor o welliannau yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos sut mae byrddau iechyd yn gweithio i wella gofal diwedd oes."

Ychwanegodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru ar gyfer elusen Marie Curie:

"Mae Marie Curie yn croesawu'r asesiad hwn o wasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes.

"Mae Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am welliannau parhaus a bydd yr adroddiad hwn yn gymorth i gyflawni hyn.

"Mae hi'n hanfodol bod cynnydd yn parhau i gael ei gyflawni er mwyn i bawb gydag anghenion diwedd oes allu derbyn ac elwa o'r gwasanaethau yma, waeth ble maen nhw'n byw neu beth yw eu cyflwr meddygol."

Straeon perthnasol