Tân mewn tŷ yn y Rhondda

injan dan Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn brwydro tân mewn tŷ ym Mhendyrus yn y Rhondda.

Dechreuodd y tân ychydig ar ôl 04:00 fore Mercher.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dweud fod yr adeilad tri llawr wedi cael ei niweidio'n ddifrifol.

Roedd criwiau o Donypandy, Glynrhedynog a'r Porth yn bresennol.

Dywedodd llefarydd nad oes neb wedi eu hanafu a'u bod yn credu i'r tŷ fod yn wag.