Dan Lydiate i ddychwelyd i Gymru

dan lydiate Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Lydiate ar hyn o bryd yn ymarfer gyda charfan Cymru ar gyfer gemau'r Hydref

Mae'r clwb rygbi Ffrengig, Racing Metro wedi cyhoeddi y bydd blaen asgellwr Cymru, Dan Lydiate yn gadael y clwb ddiwedd mis Tachwedd.

Gadawodd Lydiate y Dreigiau i ymuno â Racing Metro ar ddechrau tymor 2013-2014.

Mae disgwyl i'r blaen asgellwr ymuno ag un o ranbarthau Cymru ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Cadeirydd Racing Metro mewn datganiad: "Dymunwn weddill tymor ardderchog i Dan gyda'i glwb newydd, a phob dymuniad da ar gyfer ei ddyfodol rhyngwladol gyda Chymru, p'un ai ym mhrofion yr Hydref, y Chwe Gwlad, neu'r Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015".

Ar hyn o bryd mae Lydiate yn ymarfer yng ngwersyll carfan Cymru ger Caerdydd.

Dywedodd: "Hoffwn ddiolch i Racing Metro 92 am eu croeso am yr 17 mis a dreuliais yn y clwb.

"Hoffwn hefyd ddiolch i swyddogion y clwb am eu dealltwriaeth, ac yn enwedig am y ffordd y maent wedi cytuno i fy rhyddhau i o 'nghytundeb."