Gobaith am hyd at 150 o swyddi newydd yn Wrecsam

Hufenfa Maelor Image copyright Google
Image caption Caeodd Hufenfa Maelor yn Marchwiel ger Wrecsam ym mis Mawrth.

Gall hyd at 150 o swyddi gael eu creu yn Wrecsam os yw cynllun i ail-agor cyn-ffatri gaws fel ffatri prosesu ieir yn mynd yn ei flaen.

Caeodd Hufenfa Maelor yn Marchwiel ger Wrecsam ym mis Mawrth wedi i gwmni First Milk golli cytundeb mawr gydag archfarchnad.

Mae cwmni Salisbury Poultry, yn Bilston, y West Midlands wedi cyflwyno eu cynlluniau i Gyngor Wrecsam, gan obeithio y byddan nhw'n cael eu cymeradwyo.

Dywedodd AS De Clwyd, Susan Elan Jones, bod y newyddion ynglŷn â'r cynlluniau i'w groesawu, yn enwedig wrth ystyried y swyddi oedd wedi eu colli yn y gorffennol.

Mae'r cwmni wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw, ond mae'r cais cynllunio yn nodi y gall y safle gyflogi hyd at 150 o bobl gan brosesu 122 tunnell o ieir bob dydd.

Gall y ffatri fod yn weithredol erbyn diwedd 2015, yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

Dywedodd Ms Jones: "Rydw i'n gobeithio, pan dderbyniwn y manylion llawn, y bydd llawer o'r swyddi sy'n cael eu creu yn swyddi sefydlog sy'n helpu i ddatblygu economi sy'n ffynnu gan annog pobl leol i aros yn yr ardal."