Dilyn y Mimosa

Sioned Gorsedd
Image caption 'Sioned Eryri' yn cael ei derbyn yn aelod o Orsedd y Wladfa

O Donyrefail i Drelew - oes mae 'na gryn dipyn o ffordd o Gwm Rhondda i Batagonia! Dyna'r daith mae Sioned Wyn Jones wedi ei chymryd yn ddiweddar.

Mae'r athrawes, sy'n wreiddio o Lanberis, wedi cael secondiad o Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail i dreulio 10 mis yn gweithio yn Ysgol yr Hendre, Trelew. Sbaeneg a Chymraeg yw ieithoedd swyddogol yr ysgol.

Mae Sioned yn rhannu ei phrofiadau gyda BBC Cymru Fyw:

Image caption Sioned (ar y chwith) yn barod i annerch plant y Wladfa

Swreal

Dyna brofiad! Am wych! Ar dy ben dy hun? Ti'n ddewr! Am 10 mis?! Dwi'n eiddigeddus!

Dyma oedd ymateb rhai o fy ffrindiau a theulu pan ddywedais y byddwn i'n treulio 10 mis yn y Wladfa.

Fel pob Cymro Cymraeg sydd â diddordeb yn hanes yr iaith, mae'r ffaith bod y Gymraeg yn fyw ar ochr arall y byd yn anhygoel, yn swreal. Roedd yn rhaid i mi brofi a gweld hyn gyda fy llygaid fy hun.

Ac am groeso - partïon croesawu, asados a the Cymreig. Cefais fy nghyflwyno i'r maté, y gacen ddu, empanadas a jam llaeth yn fuan wedyn! Digon hawdd oedd gweld fy mod i wedi cyrraedd y Wladfa wrth weld yr arwyddion Cymraeg ar hyd y lle, 'Blasus', 'Plas y Coed, a 'Cornel Wini'.

Image caption Croeso cynnes i Ŵyl y Glaniaid!

Ysgol yr Hendre

Ymhen dim, dechreuodd y tymor ysgol (Mawrth - Rhagfyr) a buan iawn y des i'r arfer ȃ threfn a strwythur gwahanol i'r dydd. Un o draddodiadau'r Ariannin yw codi baner y wlad bob bore yn yr ysgolion a'i thynnu i lawr ar ddiwedd y dydd.

Mae disgyblion yr Hendre yn adrodd y gerdd 'Ein Baner' gan Esyllt Nest Roberts de Lewis yn ystod yr amseroedd hyn, arferiad cymdeithasol a gwladgarol iawn.

85 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol - maent yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg am hanner diwrnod a drwy gyfrwng y Sbaeneg am yr hanner arall. Mae'r disgyblion yn rhugl yn y Gymraeg wrth orffen eu cyfnod yno.

Image caption Criw Capel Bethel, Gaiman ar ôl gwasanaeth Cymraeg

O ran yr addysgu, mae'n debycach i'r uwchradd yng Nghymru, h.y. mae athrawon sydd ag arbenigedd pwnc yn addysgu gwersi penodol, e.e. ymarfer corff, celf, dawnsio gwerin, côr, adrodd ayyb.

Arferion gwahanol

Y disgyblion sy'n gyfrifol am eu llyfrau a'u hadnoddau ysgrifennu eu hunain, ac mae plant bach blwyddyn 1 yn dod ȃ bagiau mawr ar olwynion gyda nhw nôl a 'mlaen yn ddyddiol - mae'r bagiau bron iawn mor fawr â rhai ohonynt!

Arferiad arall sy'n wahanol ydy defnyddio enwau cyntaf yr athrawon. 'Sioned' ydw i ar lawr y dosbarth, nid 'Miss Wyn Jones', a pheth braf yw clywed pawb yn gallu ynganu fy enw mor berffaith mewn gwlad dramor!

Image caption Mae Sioned wedi rhyfeddu bod plant yn gallu ynganu ei henw'n iawn ym mhen draw'r byd

Mae'r ysgol newydd ddechrau gweithio ar brosiect gyda'r Cyngor Prydeinig 'O Bentreuchaf i Batagonia' sy'n canolbwyntio ar gyfeillio Ysgol yr Hendre ac Ysgol Pentreuchaf - prosiect a gafodd gryn dipyn o sylw gan y cyfryngau.

Ymwelwyr o Gymru

Wrth i gyfnod Eisteddfod y Wladfa agosáu, mae'r Cymry'n heidio'n ddi-baid tuag at yr ysgol, pob un eisiau gweld y rhyfeddod Cymreig hwn sy'n digwydd yn Ne America.

Yn gynharach yn y flwyddyn, cafwyd ymweliad gan rai o enwogion Cymru hefyd, y grŵp gwerin 'Fernhill' a'r bardd Llŷr Gwyn Lewis a gynhaliodd weithdy barddoniaeth gyda'r plant, ac aelodau o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Image copyright AP
Image caption Llŷr Gwyn Lewis (yn y canol yn y cefn) yn mwynhau barddoni gyda phlant Trelew

Bywyd Cymdeithasol

'Bydd bywyd yn brysur,' dywedodd rhywun cyn i mi gychwyn. 'Ni fydd amser i orffwys!' honnai un arall. Ac wrth gwrs, roedd eu geiriau yn berffaith wir - am flwyddyn brysur!

Rhwng yr holl eisteddfota (mae 6 wedi bod hyd yma), dawnsio gyda'r grŵp gwerin 'Gwanwyn', ymarferion côr y Gaiman, cyrddau Cymraeg yng Nghapel Bethel, te Cymreig, cymanfaoedd canu a gweithgareddau amrywiol wedi eu trefnu gan Fenter Patagonia (i enwi ond ychydig o weithgareddau), mae bywyd YN brysur - a dwi wrth fy modd!

Image caption Mynd o Steddfod i Steddfod! Mae Sioned wedi bod mewn nifer ohonyn nhw ers cyrraedd y Wladfa

Diolch byth nad ydy pobl yn swpera tan yr hwyr er mwyn cael digon o amser i gyflawni popeth!

Teithio

Gan fod sawl Gŵyl y Banc yma yn yr Ariannin, dwi wedi bod yn lwcus i allu teithio cryn dipyn - penwythnosau hir yn Bariloche ac El Bolsón, wythnos yn Mendoza er mwyn dilyn cwrs Sbaeneg (efallai y dylwn i fod wedi aros am bythefnos!), ac i'r Gogledd i weld un o atyniadau mwyaf poblogaidd y wlad - Rhaeadrau Iguazu. Mae sawl cyfle wedi bod i groesi'r paith er mwyn ymweld â ffrindiau newydd yn Nhrevelin ac Esquel hefyd.

Blwyddyn arall

Dim ond dau fis sydd ar ôl o'r flwyddyn academaidd hon a dyma beth oedd gwireddu breuddwyd. Does dim modd disgrifio'r profiad yn iawn - y croeso, ymdrech unigolion i sicrhau dyfodol y Gymraeg yn y Wladfa a natur gynhwysol y gymdeithas.

Does dim geiriau a fyddai'n gyfiawnhad teg o gynhesrwydd a chyfeillgarwch y trigolion. Ac oherwydd hynny, braint oedd derbyn gwahoddiad i ddychwelyd am flwyddyn arall... Dydw i ddim yn barod i ddweud hwyl fawr eto!

Edrychaf ymlaen at barhau ȃ'r gwaith, ȃ'r antur, ac i dreulio rhagor o ddyddiau gwerthfawr fel aelod o deulu mawr Cymreig y Wladfa.

Image caption Sioned yn cael ei holi ar Radio Chubut gan un o hoelion wyth y Wladfa, Eluned Gonzalez