25 o ddiffoddwyr yn delio gyda tân yng Ngheredigion

Mae tua 25 o ddiffoddwyr yn delio gyda thân mewn caban bren yng Ngheredigion.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin eu galw i ardal wledig ger Llanrhystud ychydig cyn 20:00 ddydd Mawrth.

Y gred yw bod y tân wedi dechrau yn nho'r adeilad dwy lawr.

Mae cerbydau 4x4 hefyd wedi eu galw i'r safle ar ôl i griwiau o Aberystwyth ac Aberaeron gael trafferth cyrraedd y safle.