Lerpwl 2-1 Abertawe

Emnes Image copyright Reuters
Image caption Sgoriodd Marvin Emnes i roi Abertawe ar y blaen wedi awr o chwarae

Sgoriodd Lerpwl ddwy gôl hwyr i guro Abertawe ym mhedwaredd rownd Cwpan Capital One nos Fawrth.

Lerpwl oedd yn pwyso fwyaf yn yr hanner cyntaf yn Anfield, ond doedd y tîm cartref methu a manteisio erbyn yr egwyl.

Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy ergyd campus Marvin Emnes wedi awr o chwarae, cyn i Mario Balotelli rwydo gyda llai na phum munud ar ôl.

Cafodd amddiffynnwr Abertawe, Federico Fernandez gerdyn coch am dacl ar Philippe Coutinho mewn amser ychwanegol, er iddi ymddangos bod Fernandez wedi cael y bêl.

Gyda'r ymwelwyr yn chwarae gyda 10 dyn, daeth pwysau mawr gan Lerpwl yn y munudau olaf, a'r amddiffynnwr Dejan Lovren oedd yn y cwrt cosbi i rwydo a thorri calonnau Abertawe.

Image copyright Reuters
Image caption Dejan Lovren sgoriodd yn yr eiliadau olaf i gipio'r fuddugoliaeth