Wrecsam 5-2 Macclesfield

Wrexham striker Andy Bishop Image copyright PA
Image caption Sgoriodd Andy Bishop ddwy gôl i Wrecsam, ond method cic o'r smotyn

Bydd Wrecsam yn chwarae yn rownd gyntaf y Cwpan FA ar ôl curo Macclesfield yn y rownd ragbrofol o 5-2.

Alex Grant roddodd yr ymwelwyr i'r Cae Ras ar y blaen cyn i Andy Bishop sgorio ddwywaith i Wrecsam.

Methodd Bishop gyda chic o'r smotyn, ond roedd gan Wrecsam fantais glir ar ôl i Grant gael ei yrru o'r cae.

Johnny Hunt sgoriodd y drydedd i'r Dreigiau, cyn i gôl wych gan Paul Turnbull roi gobaith i Macclesfield.

Ond Wrecsam fydd yn rownd gyntaf y brif gystadleuaeth, wrth i goliau gan Neil Ashton a Nick Rushton sicrhau'r fuddugoliaeth.

Bydd Wrecsam yn wynebu Woking yn y rownd gyntaf ddechrau Tachwedd.