Dyn ar goll yn Eryri?

Andrew Riches
Image caption Does neb wedi gweld Mr Riches ers ddydd Llun

Mae Heddlu Llundain yn gofyn am gymorth y cyhoedd, gan eu bod nhw'n credu y gallai dyn 46 oed sydd ar goll o'i gartref, fod yn Eryri.

Does neb wedi gweld Andrew Riches ers iddo adael ei fflat yn Lewisham fore dydd Llun.

Mae ymchwiliad yr heddlu wedi canfod bod car Mr Riches yn ngogledd Cymru ddydd Mercher, ac yn teithio i gyfeiriad Eryri toc wedi 9.30am.

Yn ôl yr Arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu'r Gogledd, mae Mr Riches yn "'nabod Eryri yn dda iawn, ac wedi gwersylla yma yn y gorffennol".

Ychwanegodd fod Eryri yn ardal fawr, a bod swyddogion yn galw ar y cyhoedd am gymorth.

Mae Mr Riches yn wyn, yn 5'9, a chanddo ben moel.

Mae'n debyg ei fod yn teithio mewn car Ford Mondeo gyda'r rhif cofrestru SD04 WDC.

Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.