Ymgyrch yn erbyn trefnu canlyniadau gemau pêl-droed

Jonathan Ford Image copyright David Rawcliffe
Image caption Yn ôl y prif weithredwr, mae'r mudiad yn gweithredu'n rhagweithiol er mwyn sicrhau bod betio yng Nghymru'n cael ei reoli'n effeithiol.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi lansio ymgyrch yn erbyn trefnu canlyniadau gemau wedi iddyn nhw gyhoeddi bod mwy na £75 miliwn yn cael ei fetio yn Uwch Gynghrair Cymru bob tymor.

Ar gyfartaledd mae £575,000 yn cael ei fetio ar bob gêm yng Nghynghrair Cymru a dywedodd y mudiad fod trefnu canlyniadau gemau yn "yn fygythiad sylweddol".

Dywedodd y prif weithredwr Jonathan Ford: "Rydym yn gweithredu'n rhagweithiol er mwyn sicrhau bod betio yng Nghymru'n cael ei reoli'n effeithiol."

Roedd y mudiad wedi cyflogi "arbenigwyr" ar gychwyn y tymor presennol.

"O ganlyniad rydym yn ymwybodol bod y bygythiad i'r gêm yng Nghymru yn sylweddol", meddai.

Dywedodd y prif weithredwr: "Roedden ni eisoes yn gweithio'n agos gyda UEFA a Sportradar (y gwasanaeth monitro) i sicrhau bod unrhyw fetio anghyffredin yn dod i'n sylw."

Gorfodol

Mae ymgyrch y mudiad yn gynllun addysgol gorfodol y tymor yma ar gyfer holl chwaraewyr yr Uwch Gynghrair.

Bydd gweithdai gorfodol i chwaraewyr y cynghreiriau is, Adran Un Cynghrair Cymru Nathaniel Cars a Chynghrair Cymru Alliance Huws Gray, drwy gydol tymor 2015-16.

Dywedodd y prif weithredwr: "Rhaid sicrhau nad yw trefnu canlyniadau gemau yn chwarae unrhyw ran ym myd pêl-droed.

"Drwy weithio gyda mudiadau fel Sportradar gallwn adnabod problemau posibl ac addysgu pobl am y gwahaniaethau rhwng betio priodol a gweithgareddau anghyfreithlon fel trefnu canlyniadau gemau."